Dyfarnu Ysgoloriaeth William Salesbury i un o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg
15 Tachwedd 2018
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae myfyriwr un o raddau integredig Ysgol y Gymraeg wedi ennill un o ysgoloriaethau Cronfa Genedlaethol William Salesbury.
Bydd Heledd Ainsworth, sy’n astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg (LLB) ac sy’n dod yn wreiddiol o Landysul, Ceredigion, yn derbyn yr ysgoloriaeth yn 2018. Mae’r Gronfa yn dyfarnu dwy ysgoloriaeth gwerth £5,000 i fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol bob blwyddyn gyda’r diben o hyrwyddo a chefnogi Addysg Uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Heledd yn dilyn yn ôl-traed Nest Jenkins, enillydd y llynedd, sydd hefyd yn astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg. Dyfernir yr ysgoloriaeth yn enw William Salesbury (cyn 1507 – c.1580), yr ysgolhaig nodedig a phrif gyfieithydd y Testament Newydd i'r Gymraeg yn 1567.
Dywedodd Heledd am ei llwyddiant: “Rwyf wrth fy modd i dderbyn yr anrhydedd hwn. Mae’n cydnabod pwysigrwydd astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn helpu creu cyfundrefn gyfreithiol a barnwriaethol ddwyieithog. Bydd yr ysgoloriaeth yn cefnogi fy astudiaethau a’m diddordeb yn y defnydd o ieithoedd lleiafrifol o fewn systemau cyfreithiol eraill.”
Er bod Heledd yn ei blwyddyn gyntaf mae hi eisoes yn meddwl am y dyfodol. Mae’n ffyddiog y bydd ei gradd yn gallu agor drysau i lawer o feysydd megis gwleidyddiaeth, awdurdodau lleol, y llywodraeth, addysg, a busnes. Pa yrfa bynnag y bydd yn ei dewis yn y pen draw, bwriad Heledd yw aros yng Nghymru.
Dywedodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: ‘Mae ein rhaglenni israddedig yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio’r Gymraeg yn ogystal â phwnc arall o’r dyniaethau neu’r gwyddorau cymdeithasol. Bydd y myfyrwyr yn gadael â gwybodaeth drylwyr o’r iaith a’i diwylliant a gallant hefyd fagu arbenigedd mewn meysydd megis cynllunio a pholisi iaith. Mae rhaglen y Gyfraith a’r Gymraeg, er enghraifft, yn sicrhau y bydd defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol Cymraeg y dyfodol yn gallu trafod eu hanghenion yn eu mamiaith.”
Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth William Salesbury: “Rydym yn hynod falch o allu cefnogi myfyrwyr ym myd y gyfraith. Mae sicrhau bod myfyrwyr talentog, fel Heledd a Nest, yn cael cefnogaeth i astudio a datblygu mewn system gyfreithiol ddwyieithog yn rhan hanfodol o waith y gronfa.”