Ewch i’r prif gynnwys

Angen syniadau newydd ar gyfer rheoli ein harfordiroedd

4 Medi 2015

Beach coastline

Ymchwilwyr yn awgrymu bod angen dull newydd o reoli arfordiroedd er mwyn addasu i'r newid yn yr hinsawdd

Yn ôl ymchwil newydd gan wyddonwyr y Brifysgol, rhaid i'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau am yr arfordiroedd roi'r gorau i ystyried grymoedd ffisegol ac economaidd ar eu pen eu hunain, er mwyn amlygu'r newidiadau i'n harfordiroedd a'u hegluro'n llawn.

Mae pobl wedi newid yr arfordiroedd lle'r ydym yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddynt ers tro byd. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae ymchwilwyr wedi ymchwilio i pam mae arfordiroedd datblygedig yn newid dros amser mewn ffyrdd mor wahanol i'r rhai naturiol sydd heb eu datblygu.

Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Geomorphology, yn gosod y llwyfan ar gyfer ffordd newydd o ddeall y newidiadau hyn yng nghyd-destun y newid yn yr hinsawdd.

Mae'r papur yn egluro bod y prosesau sy'n newid siâp arfordiroedd naturiol yn rhai ffisegol; mae stormydd a thonnau'n symud gwaddodion o gwmpas, yn erydu'r draethlin mewn rhai mannau ac yn ychwanegu ato mewn mannau eraill.

Mewn cyferbyniad, prosesau economaidd yn bennaf sy'n newid siâp arfordiroedd datblygedig yn ôl yr ymchwilwyr – yn enwedig lle mae traethlinau'n cael eu haddasu gan amddiffynfeydd caled rhag y môr, a thywod ychwanegol yn cael ei osod ar draethau sydd wedi'u herydu.

Mae'r awduron o'r farn bod yr ymyriadau hyn, sy'n ymwneud i raddau helaeth ag economeg gwerth eiddo ar yr arfordir a thwristiaeth, yn effeithio ar sut mae prosesau ffisegol naturiol - yn enwedig y rhai a achosir gan donnau a stormydd - yn rhyngweithio â'r arfordir ei hun.

Felly, mae'r ymchwil yn datgan bod modd disgrifio parthau arfordirol fel 'systemau cysylltiedig' a reolir gan gysylltiadau cyfatebol rhwng grymoedd ffisegol ac economaidd.

Gan fod gwaith ymchwil yn y maes hwn yn tueddu i edrych ar y grymoedd hyn ar wahân, mae Dr Eli Lazarus o Brifysgol Caerdydd a'i gydweithwyr yn esbonio bod angen eu dwyn ynghyd i wella ein dealltwriaeth o sut i reoli'r arfordir yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

Meddai Dr Lazarus, ymchwilydd arweiniol o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd: "Mae deall deinameg arfordiroedd datblygedig yn hanfodol er mwyn gwella asesiadau risg, rheoli arfordiroedd yn well, ac addasu'n effeithiol i newidiadau amgylcheddol a achosir gan newid yn yr hinsawdd.

"Drwy'r gwaith hwn, rydym yn gosod fframwaith ar gyfer troi gwybodaeth am brosesau gwneud penderfyniadau, yn fodelau newydd o ddeinameg arfordiroedd datblygedig."

Mae cyd-awduron Lazarus yn cynnwys ymchwilwyr o Arolwg Daearegol Prydain, Prifysgol Duke a'r Ganolfan Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Saint Louis. Mae'r tîm yn cynnig cyfres o argymhellion ar gyfer gwaith ymchwil yn y dyfodol i arfordiroedd datblygedig:

(1) deall ystyriaethau cymdeithasol y rhai sy'n gwneud penderfyniadau am arfordiroedd (sy'n cynnwys disgyblaethau seicolegwyr, economegwyr a gwyddonwyr penderfyniadau);

(2) mesur sut mae addasiadau dynol i gyllidebau siâp arfordiroedd a gwaddodion naturiol yn effeithio ar newidiadau ffisegol i arfordiroedd ar raddfeydd gofodol mawr a thros gyfnodau maith; a

(3) gwella sut mae gwyddonwyr ac ymarferwyr yn cyfnewid ac yn cyd-gynhyrchu gwybodaeth.

Rhannu’r stori hon