Ewch i’r prif gynnwys

UDA yn mabwysiadu system gwrth-drais y DU

16 Tachwedd 2018

Jonathan Shepherd
Professor Jonathan Shepherd

Mae system Brydeinig sy’n mynd i’r afael â thrais wedi’i mabwysiadu yn yr Unol Daleithiau.

Mae Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais, a arloeswyd gan yr Athro Jonathan Shepherd, wedi cael cefnogaeth ffurfiol  Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau (CDC) UDA.

Mae’r model yn dod ag asiantaethau ynghyd i atal trais drwy ddefnyddio data a gesglir gan adrannau brys yn ogystal â gwybodaeth yr heddlu.

Yn ôl Adran Cyfiawnder yr Unol Daleithiau, mae camau atal troseddau wedi’u rhwystro gan y ffaith nad yw'r rhai sy'n gorfodi'r gyfraith yn cael gwybod am dros hanner y troseddau treisgar yn UDA.

Drwy ddefnyddio data’r adrannau brys, mae’r model yn dangos y mannau hynny lle mae trais yn digwydd nad yw’r heddlu yn gwybod amdanynt. Dyma’r mannau lle dylai’r heddlu fod yn canolbwyntio eu hymdrechion.

Erbyn hyn mae CDC, sy’n ceisio gwarchod America rhag bygythiadau iechyd a diogelwch, wedi creu gwefan a phecyn cymorth er mwyn helpu asiantaethau i gyflwyno'r model ledled y wlad

Yn ôl yr Athro Jonathan Shepherd, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd: "Mae'r ffaith fod y Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau yn rhoi sêl bendith ffederal yn ffurfiol yn garreg filltir o bwys yn hanes Model Caerdydd. I gymunedau ar draws yr Unol Daleithiau sy'n wynebu trasiedïau dynol a chostau drud trais, mae'r dull hwn, sydd eisoes wedi'i brofi, yn un addawol dros ben. Mae rhoi'r dull ar waith yn sicr o esgor ar fwy o wersi ynghylch sut y dylid defnyddio'r Model, a bydd yn helpu awdurdodaethau mewn mannau eraill i elwa."

Mae Model Caerdydd wedi bod mor fanwl gywir wrth ganfod mannau penodol nes ei fod wedi helpu Heddlu Llundain yn ddiweddar i ddod o hyd i 'dŷ crack' oedd yn anhysbys, gynt, yn y ddinas honno.

Mae pecyn cymorth CDC yn cynnwys ystod o ddeunyddiau i helpu gweithwyr iechyd proffesiynol ac asiantaethau i sefydlu prosiectau 'Model Caerdydd' ar y cyd. Mae'n cynnwys arweiniad ar gyfer ysbytai a chyrff gorfodi'r gyfraith, yn ogystal â chyngor ar faterion cyfreithiol, arian a sut i feithrin partneriaethau llwyddiannus.

Wrth lansio'r pecyn cymorth, meddai James A. Mercy, PhD, Cyfarwyddwr yr Adran Atal Trais yng Nghanolfan Cenedlaethol Atal a Rheoli Anafiadau: "Mae Model Atal Trais Caerdydd yn paratoi'r ffordd i gymunedau feddu ar ddarlun mwy clir o'r mannau lle mae trais yn digwydd drwy gyfuno a mapio data ysbytai a'r heddlu am drais.

"Mae mwy iddo na dull o fapio a deall trais: mae Model Caerdydd yn cynnig fframwaith uniongyrchol ar gyfer ysbytai, asiantaethau gorfodi'r gyfraith, asiantaethau iechyd cyhoeddus, grwpiau cymunedol, ac eraill sydd â diddordeb mewn atal trais er mwyn cydweithio a datblygu strategaethau atal trais ar y cyd."

Gan ddefnyddio Model Caerdydd, mae asiantaethau atal trais ac ysbytai'r ardal yn ffurfio partneriaeth diogelwch yn y gymuned er mwyn rhannu data o gyfweliadau gan bobl ag anafwyd gan drais. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:

  • Pryd cafodd yr unigolyn ei anafu (dyddiad ac amser)
  • Ble cafodd yr unigolyn ei anafu (enw’r busnes a/neu gyfeiriad y stryd)
  • Sut ddigwyddodd yr anaf a/neu'r arf a ddefnyddiwyd (e.e. taro, trywanu â chyllell)

Yn y rhagair i'r pecyn cymorth, mae Dr Mercy yn ychwanegu: "Mae Model Caerdydd yn ateb addawol ar gyfer atal trais. Rydym yn eich annog i ddefnyddio'r deunydd hwn i greu partneriaeth eang er mwyn atal trais yn eich cymuned."

Sefydlwyd Model Caerdydd ym 1997, ac mae wedi'i fabwysiadu ledled y byd.

Yn UDA, dyfarnodd y Sefydliad Cyfiawnder Cenedlaethol ffederal, sy'n helpu asiantaethau lleol, $1m yn ddiweddar i brosiect yn Wisconsin sy'n mabwysiadu Model Caerdydd.

Bydd yr arian yn helpu i sefydlu'r broses o rannu data rhwng asiantaethau gorfodi'r gyfraith, cyrff iechyd cyhoeddus, ysbytai a chanolfannau triniaeth yn West Allis, un o faestrefi Milwaukee.

Mabwysiadodd y Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau fodel yr Athro Shepherd yn dilyn gwerthusiad sy'n cymharu deilliannau trais yng Nghaerdydd â'r profiad mewn 14 o ddinasoedd tebyg.

Dangosodd y canlyniadau ostyngiad o 32% mewn anafiadau wedi'u cofnodi gan yr heddlu (o'i gymharu ag ymosodiadau difrifol yn UDA), a gostyngiad o 42% yn y nifer a aeth i'r ysbyty am anafiadau yn gysylltiedig â thrais, gan arbed dros £19 mewn costau cyfiawnder troseddol a bron i £15 mewn costau system iechyd am bob £1 a wariwyd.

https://youtu.be/jiH6PBj0ekg

Rhannu’r stori hon

Rydyn ni’n lleihau’r nifer o droseddau treisiol drwy ymchwil newydd, defnydd newydd o ddata a chydweithio gwreiddiol rhwng meddygaeth a chyfiawnder troseddol.