Llwyddiant FrankenFest Caerdydd yn ysbryd-oli
14 Tachwedd 2018
Agorodd Prifysgol Caerdydd ei drysau i ddathlu deucanmlwyddiant nofel gothig anfarwol Mary Shelley gyda chyfres o ddigwyddiadau bwganllyd.
Cynhaliwyd Frankenfest Caerdydd yn ystod y deg diwrnod cyn Calan Gaeaf 2018, 200 o flynyddoedd ers cyhoeddi’r nofel arloesol. Roedd y gyfres yn canolbwyntio ar wahanol elfennau o'r nofel yn y pedwar digwyddiad am ddim, gyda 130 o bobl yn mynychu dros ddeg diwrnod.
Roedd y cyntaf, A Stormy Night of Ghost-Telling, yn canolbwyntio ar ymchwil newydd i Fantasmagoriana, y straeon ysbryd Ffrengig a ysbrydolodd Frankenstein gan Maximiliaan van Woudenberg [Sefydliad Technoleg Sheridan, Canada/Prifysgol Caergrawnt].
Roedd natur amlddisgyblaethol Of What a Strange Nature Is Knowledge yn arddangos ymchwil staff y Brifysgol [Jamie Castell, Barbara Hughes-Moore a Keir Waddington] ym meysydd Llenyddiaeth Saesneg, y Gyfraith a Hanes yn eu tro.
Y mwyaf poblogaidd oedd Noson Mary Shelly, gyda dangosiad am ddim o'r ffilm ddiweddar Mary Shelley gydag Elle Fanning yn y brif fan. Trefnwyd y trydydd digwyddiad hwn ar y cyd â Cardiff BookTalk, gan drafod portread y ffilm o'r awdur, gyda chymorth ymchwil Anna Mercer (Prifysgol Caerdydd/Keats House) i bapurau teulu Shelley.
Roedd y digwyddiad olaf ar noson Calan Gaeaf, ‘My Hideous Progeny’, yn cyfuno darlleniadau a thrafodaethau ar rannau allweddol o Frankenstein, cwis gyda dolen fideo fyw at gydweithwyr ym Mhrifysgol Lancaster a FrankenQuiz a luniwyd yn arbennig.
Gan fanteisio ar adnodd cyhoeddus archifau'r Brifysgol, cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r digwyddiadau yn Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.
"Rydym ni'n dathlu'r math hwn o ben-blwydd oherwydd y cyfalaf diwylliannol oesol mae nofelau fel Frankenstein wedi'i gasglu dros y canrifoedd" eglurodd curadur y gyfres, yr Athro Diwylliannau Print a Digidol Anthony Mandal.
“Mae Frankenstein yn adrodd stori oesol am ein perthynas anesmwyth fel bodau dynol â gwyddoniaeth a thechnoleg; mae'n gofyn i ni ystyried ein cyfrifoldebau moesegol i ffrwyth ein gwybodaeth a'n dychymyg ein hunain; ac mae'n codi cwestiynau amserol am ein heffaith ar yr amgylchedd.”
"Er bod llawer o elfennau sy'n benodol i'r amser y'i hysgrifennwyd yn ystod cyfnod y Rhaglywiaeth, mae nofel hynod o athronyddol Shelley wedi codi uwchlaw ei hamser ei hun i gyflawni statws mytholegol" ychwanegodd.
Roedd FrankenFest yn rhan o fenter Frankenreads, sy’n ddathliad rhyngwladol o ddeuganfed pen-blwydd FrankensteinMary Shelley a drefnwyd gan Gymdeithas Keats-Shelley America gyda chefnogaeth dros 600 o sefydliadau mewn 43 o wledydd.
Roedd y gyfres arloesol yn adeiladu ar lwyddiant Mary Shelley’s Frankenstein, 1818–2018: Circuits and Circulation. Daeth y gynhadledd ryngwladol ddiweddar yn Bologna, a drefnwyd ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a’r Brifysgol Agored ag ysgolheigion astudiaethau gothig a rhamantaidd blaenllaw rhyngwladol ac ar ddechrau eu gyrfa at ei gilydd.