Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Caerdydd ymhlith 40 uchaf y byd
12 Tachwedd 2018
Mae Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Caerdydd ymhlith y gorau yn y byd, yn ôl y Tabl Cynghrair o Brifysgolion y Byd (ARWU) 2018.
Mae'r ARWU, gan Shanghai Ranking Consultancy, sefydliad annibynnol uchel iawn ei barch sydd wedi ymrwymo i ymchwil ar wybodaeth ac ymgynghoriadau ynghylch addysg uwch, yn gosod Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Caerdydd yn y 33ain safle yn y byd (o blith 1,200 o sefydliadau), ac ymhlith y 5 uchaf yn y DU.
Mae'r ARWU wedi'i seilio ar gryfder a pherfformiad ymchwil ac mae'n cael ei ystyried y tabl cynghrair mwyaf dylanwadol o brifysgolion ymchwil y byd, a'r un sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf.
Yn ôl yr Athro Jim Murray, Pennaeth Ysgol y Biowyddorau:
"Rydym yn falch iawn o'n hymchwil yn Ysgol y Biowyddorau, ac rydw i wrth fy modd bod tabl cynghrair yr ARWU wedi cydnabod hynny eto.
Yn ddiweddar, mae'r Ysgol wedi buddsoddi tua £10M mewn labordai ac adnoddau newydd, gan gynnwys Canolfannau Technoleg sy'n galluogi ein hymchwilwyr i gael mynediad at arbenigedd a chyfarpar o'r radd flaenaf, ac isadeiledd newydd ar gyfer y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau.
Ar y cyd â nifer o benodiadau academaidd newydd, bydd y buddsoddiadau hyn yn cryfhau ein galluoedd ymchwil a'n hallbynnau ymhellach,"