Techneg newydd ar gyfer llawfeddygaeth yr ymennydd
12 Tachwedd 2018
Mae llawfeddygon Cymru’n dysgu techneg lawfeddygol newydd fydd yn eu galluogi i weithio wrth fôn yr ymennydd drwy grau’r llygad. Bydd hyn yn lleihau creithiau ac amser gwella’r cleifion a allai fod wedi gorfod cael llawdriniaeth agored ar yr ymennydd heb y dechneg hon.
Mae’r seminarau hyfforddi, mewn cysylltiad ag Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cael eu cynnal gan Kris Moe, Athro Llawfeddygaeth y glust, y trwyn a’r gwddf yn Seattle. Ef wnaeth arloesi’r driniaeth gywrain hon.
Mae tîm llawfeddygaeth bôn y benglog Caerdydd yn cynllunio cyflwyno’r dechneg, sy’n ymyrryd cyn lleied â phosibl, i Gymru. Y nhw hefyd fydd y cyntaf i’w chyflwyno i’r DU.
TONES (llawfeddygaeth niwroendosgopig drawsgreuol) yw’r enw ar y dechneg, sy’n cynnwys gwneud endoriad bach y tu ôl i’r amrant neu drwyddo. Gwneir twll bach iawn drwy asgwrn crau’r llygad, sydd mor denau â phapur, er mwyn cyrraedd yr ymennydd. Mae’r dull hwn yn galluogi llawfeddygon i wneud llawdriniaethau fel atgyweirio toresgyrn bôn y greuan a thynnu tiwmorau heb symud yr ymennydd. Hefyd, mae’n gwarchod y nerfau optig, y nerfau ar gyfer arogli a’r rhydwelïau carotid ac offthalmig.
Meddai Miss Caroline Hayhurst, Niwrolawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Prifysgol Cymru a threfnydd y cwrs: “Mae llawdriniaeth ar fôn yr ymennydd yn un hynod gymhleth, hyd yn oed ym maes niwrofeddygaeth.
“Mae’r Athro Kris Moe yn llawfeddyg o fri rhyngwladol, ac mae wedi arloesi techneg sy’n newid sut rydym yn cyrraedd yr ymennydd ac yn hwyluso gwellhad y cleifion. Mae’n anrhydedd enfawr ei fod yn ein helpu i ddatblygu gwasanaeth hynod flaengar i Gymru, drwy gyflwyno’r driniaeth chwyldroadol hon.”