Penodiad pwysig ar gyfer Pennaeth Ysgol
3 Medi 2015
Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi'i benodi i bwyllgor ymchwil uchel ei barch
Penodwyd yr Athro Daniel Wincott, Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd, fel aelod o Bwyllgor Ymchwil y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
ESRC yw sefydliad ariannu mwyaf y DU ar gyfer ymchwil i faterion cymdeithasol ac economaidd. Mae'n gweithio gyda busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae'n gorff cyhoeddus anadrannol, ac ar unrhyw un adeg, mae ESRC yn cefnogi dros 4,000 o ymchwilwyr a myfyrwyr ôl-raddedig ledled y wlad, o'i gyllideb o dros £200 miliwn.
Mae Pwyllgor Ymchwil ESRC – sy'n cyfarfod dair gwaith y flwyddyn – yn goruchwylio ac yn gosod polisïau ar gyfer ariannu a buddsoddi mewn gwaith ymchwil. Yn 2015, fe wnaeth y Cyngor gyhoeddi adolygiad o’i strwythur llywodraethu, gan adnewyddu a diwygio'r Pwyllgor Ymchwil a chyflwyno Pwyllgor Gallu newydd. Bydd y Pwyllgorau hyn yn cydweithio'n agos i fynd i'r afael â'r heriau integredig a rhyngddisgyblaethol fydd yn wynebu ymchwil i'r gwyddorau cymdeithasol dros y blynyddoedd nesaf.
Nid dyma'r tro cyntaf i'r Athro Wincott fod yn rhan o waith ESRC. Yn y gorffennol, mae wedi ymwneud â datblygu gwaith ESRC ar "Y DU mewn Ewrop sy'n newid". Yn 2014, daeth yn Is-gadeirydd y grŵp cynghori ar gyfer y fenter hon – sy'n trin a thrafod yr heriau sy'n wynebu'r DU yn ei pherthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r fenter yn tynnu ar arbenigedd ac ymchwil academaidd annibynnol eithriadol i lywio polisïau hollbwysig a thrafodaethau gwleidyddol ar y pwnc dadleuol hwn.
Dywedodd yr Athro Wincott: "Roedd ailstrwythuro ESRC yn gyfle gwych i mi ymwneud yn fwy â'u gwaith. Drwy gymryd rhan yn Y DU mewn Ewrop sy'n newid, roeddwn yn gyfarwydd â gwaith oedd yn cael ei gomisiynu gan ESRC, ond roeddwn am gymryd rhan ar lefel strategol. Bydd y Pwyllgor Ymchwil yn rhoi'r cyfle hwnnw i mi, ac edrychaf ymlaen at ymuno yn ddiweddarach eleni. "
Bydd yr Athro Wincott yn parhau fel Is-gadeirydd y grŵp cynghori ar gyfer menter Y DU mewn Ewrop sy'n newid pan fydd yn ymaelodi â Phwyllgor Ymchwil ESRC fis Medi 2015. Bydd yn aelod am ddwy flynedd, tan 2017 (gyda'r posibilrwydd o gael ei ailbenodi am ddwy flynedd arall).