Gwobr i Athro sy'n rhagori ym maes cemeg
9 Tachwedd 2018
Mae’r Athro Angela Casini, Cadeirydd Cemeg Feddyginiaethol a Bioanorganig o Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, wedi cael Gwobr Cemeg Burghausen gan Brifysgol Dechnegol Munich (TUM).
Mae’r wobr, a gyflwynir i wyddonwyr sy'n rhagori ym maes cemeg, yn cydnabod arloesedd cemegol a diwydiannol ac yn cynnwys gwobr o 20,000 o ewros.
Rhoddwyd yr anrhydedd i Angela er mwyn cydnabod ei champau gwyddonol rhagorol ym maes cemeg bio-organig, organometalig a meddyginiaethol. Mae ei hymchwil, a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn astudio effeithiau ïonau metel ym maes meddygaeth. Ar hyn o bryd, mae hi’n canolbwyntio ar gyfryngau therapiwtig sy’n seiliedig ar aur, yn ogystal â’r defnydd posibl o gyfansoddion sy’n seiliedig ar fetelau mewn bioleg gemegol, cyflwyno cyffuriau, trin canser a ffisioleg.
Meddai’r Athro Dr Wolfgang A Herrmann, Llywydd Canolfan Gwyddoniaeth ac Astudio TUM: “Mae natur ryngddisgyblaethol gwaith Angela Casini wedi creu cysylltiad rhwng ymchwil gemegol ac ymchwil feddygol ac wedi actifadu potensialau rhyngweithio nad oedd wedi’u darganfod hyd yn hyn.”