Addysgu ieithoedd ar gyfer dyfodol rhyngwladol
9 Tachwedd 2018
Yn ôl academydd o Gaerdydd, mae angen i ni gymryd camau brys i roi mwy o bwysigrwydd i astudio ieithoedd a diwylliannau modern.
Mae'r Athro Loredana Polezzi yn rhan o brosiect Trawsgenedlaetholi Ieithoedd Modern (TML), sydd wedi dod â thîm rhyngwladol o ymchwilwyr ac ymarferwyr ynghyd i fynd i'r afael â materion allweddol mewn addysgu iaith a diwylliant.
Lansiwyd eu hadroddiad diweddaraf, Reframing language education for a global future, heddiw (Tachwedd 9) mewn digwyddiad cyhoeddus a gynhaliwyd gan yr Academi Frenhinol, sy'n cyflwyno cyfres o argymhellion i wneuthurwyr polisïau.
Mae'r nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern ar lefel ysgol a phrifysgol yn gostwng ac mae wedi arwain at hwb gan ieithyddion i astudio'r rhesymau pam, a chynnig atebion er mwyn rhoi diwedd ar y tueddiad.
Dywedodd yr Athro Polezzi, o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd: "Yn groes i dybiaethau gor-syml, mae'r DU eisoes yn gymdeithas amlieithog ac mae angen gwneud mwy i herio'r syniad mai Saesneg yn unig a siaredir yma.
"Rydym yn gobeithio y bydd ein hargymhellion yn helpu gwneuthurwyr polisïau i ddatblygu strategaeth genedlaethol er mwyn manteisio ar yr amrywiaeth ieithyddol sydd eisoes yn bodoli yn ein cymunedau i wneud yn siŵr bod difaterwch ieithyddol yn hen hanes."
Mae prosiect TML wedi bod yn gweithio'n agos gydag ysgolion i ddatblygu cwricwla ac adnoddau addysgu sy'n hyrwyddo manteision diwylliannol a gwybodaeth ehangach sy'n deillio o astudio ieithoedd a chyfieithu.
Ymhlith y chwe argymhelliad, mae galw am strategaethau cenedlaethol sy'n eirioli dros "lythrennedd ddiwylliannol" fel adnodd allweddol i wella cydlyniant cymdeithasol. Maent hefyd yn dweud bod rhaid i newidiadau i'r cwricwlwm mewn Addysg Uwch gyd-fynd â deialog barhaus rhwng athrawon ysgolion a phrifysgolion yn ogystal â gwneuthurwyr polisïau.
I weld yr adroddiad llawn, ewch i: http://www.bristol.ac.uk/policybristol/policy-briefings/transnationalizing-modern-languages/