Teyrngedau i 'gawr' ym myd anesthesia
8 Tachwedd 2018
Mae teyrngedau wedi'u talu i anesthetydd arloesol, yr Athro William Mapleson, sydd wedi marw yn 92 oed.
Roedd ei ffrindiau a’i gydweithwyr yn ei alw’n Bill. Cafodd yr Athro Mapleson yrfa academaidd nodedig yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd – yn gweithio ym maes anesthesia academaidd ers dros 60 mlynedd.
Roedd yn ymchwilydd gweithgar yn ei 90au hyd yn oed.
Ganwyd yr Athro Mapleson yn Llundain, a chafodd ei ddisgrifio'n un o'r ymchwilwyr anesthetig mwyaf blaenllaw o'i genhedlaeth gan ei gydweithwyr.
Dywedodd Judith Hall, Athro Anaestheteg, Gofal Dwys a Meddygaeth Poen ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rwy'n hynod falch bod y gwyddonydd gwych hwn wedi bod yn gydweithiwr a ffrind i mi.
Ni chafodd yr Athro Mapleson y dechrau gorau i’w yrfa lewyrchus ym Mhrifysgol Caerdydd. Penderfynodd gael "profiad o gael cyfweliad" trwy wneud cais am swydd yn yr adran anesthetig ym 1952.
Ar ôl cael cynnig y swydd, ysgrifennodd at ei gyflogwyr newydd i ddweud ei fod yn bwriadu treulio pum mlynedd yn y swydd. Arhosodd am chwe degawd.
Llwyddodd yr Athro Mapleson i gael enw da i'w hun mor gynnar â 1954, drwy ddosbarthu systemau anadlu, a elwir yn Systemau Anadlu Mapleson, ar gyfer cyflenwi nwyon ocsigen ac anesthetig - a chael gwared ar garbon deuocsid - yn ystod anesthesia.
Galwodd ef y cylchedau anadlu yn A, B, C, D, E ac F, gan ddweud, yn ei ffordd wylaidd: "Fi oedd y person cyntaf i gael enw da ym maes anesthesia ar sail ei wybodaeth o'r wyddor!"
Gwnaeth yr Athro Mapleson gyfraniad enfawr i wyddoniaeth anesthesia, gan gyhoeddi mwy na 100 o bapurau ymchwil a chyhoeddiadau eraill.
Ei brif ddiddordeb ymchwil oedd sut mae cyffuriau'n symud o gwmpas y corff mewn perthynas â chyffuriau anaesthetig a anadlir i mewn a gweithrediad awyryddion ysgyfaint awtomatig.
Roedd yr Athro Mapleson yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Ymchwil Anesthetig ym 1958 a dim ond ychydig o gyfarfodydd a gollodd dros ddegawdau lawer.
Cafodd nifer o wobrau yn ystod ei yrfa hir, gan gynnwys medal Syr Ivan Magil, Cymdeithas Anesthetyddion yn 2002. Mae'n un o ddim ond saith sydd wedi cael yr anrhydedd hwn sy’n cael ei roi am gyfraniadau arloesol eithriadol i arbenigedd anesthesia.
Yn 2014 agorwyd canolfan arloesedd meddygol ac addysg glinigol fodern y Brifysgol yng Nghwm Cynon, a chafodd ei enwi'n Ganolfan Bill Mapleson.
Dywedodd yr Athro Mapleson ar y pryd: "Mae cael canolfan wedi’i henwi ar eich hôl yn dipyn o beth.
"Rydw i wedi cael gyrfa anhygoel, ac wedi bod yn ffodus iawn yn fy mywyd yn hynny o beth.
"Rydw i wedi cael fy nhalu i wneud gwaith ymchwil, a’r gwir yw ei fod yn hobi i mi gymaint â’i fod yn waith, felly mae’n sefyllfa ddelfrydol."
Gwyliwch y ffilm am lansio Canolfan Bill Mapleson yn 2014