Gwyddonwyr yn barod i achub bywydau
8 Tachwedd 2018
Bydd diffibriliwr newydd yn helpu i warchod bywydau tenantiaid, staff, ymwelwyr a’r cyhoedd cyfagos yn Medicentre Caerdydd.
Mae’r cyfarpar wedi’i osod yn nerbynfa’r Ganolfan trwy garedigrwydd Welsh Hearts - elusen flaenllaw sy’n gosod diffibrilwyr mewn cymunedau ac yn cynnig hyfforddiant CPR a hyfforddiant diffibrilwyr yng Nghymru.
Mae staff y Medicentre, ynghyd â chynrychiolwyr o gwmnïau sy’n denantiaid yng nghanolfan meithrin busnes gwyddorau bywyd, bellach wedi’u hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r ddyfais. Mae’n rhoi sioc drydanol egni uchel i’r galon drwy fur brest y person sy’n cael trawiad ar y galon.
Mae Medicentre Caerdydd, sy’n eiddo i'r prif gyfranddalwyr Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn allweddol yn y byd gwyddorau bywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd Justin John, Swyddog Meithrin Busnesau ym Medicentre Caerdydd, “Mae Tenantiaid wedi gofyn i mi am gael diffibriliwr ar y safle gan eu bod yn gwybod am y gwahaniaeth cadarnhaol y gall y cyfarpar hwn gael ar bobl gerllaw, neu rywun y tu fewn i’r Medicentre sy’n dioddef episod ar y galon sy’n bygwth bywyd.
“Fe wnaethom ni gydweithio gyda Welsh Hearts ar unwaith ac rydym ni wrth ein bodd fod gennym ein diffibriliwr ein hun a set o bobl sydd wedi’u hyfforddi’n dda a fydd yn gallu ymateb mewn argyfwng.”
Erbyn heddiw, mae Calonnau Cymru wedi gosod dros 1,400 o ddiffibrilwyr ac wedi rhoi hyfforddiant CPR i dros 46,000 o bobl yng Nghymru. Gweledigaeth yr elusen yw dyfodol lle nad oes unrhyw un yng Nghymru yn marw’n gynnar o ganlyniad i glefyd y galon.
Dywedodd Liz Evans, Hyfforddwr Welsh Hearts, “Mae'r gyfradd goroesi i bobl sy'n cael trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty rhwng tri a phump y cant. Mae hwn yn codi i 55 y cant pan mae diffibriliwr gerllaw. Rydym mor falch bod sefydliadau fel Medicentre Caerdydd yn cydnabod y cyfraniad y gallent eu gwneud i achub bywydau, a chadw eu gweithlu a’u cymuned leol yn ddiogel”.
Daeth gwyddonwyr, staff gweinyddol, a chlinigwyr sy’n ymarfer o Medicentre Caerdydd i sesiynau a gynhaliwyd gan Welsh Hearts i ddysgu am y realiti ymarferol o fod y cyntaf i ymateb i drawiad ar y galon.
Mae'r diffibriliwr yn un o amrywiaeth o fuddsoddiadau iechyd sy’n cael eu gwneud gan Medicentre Caerdydd. Yn fuan, bydd sesiynau lles gan gynnwys ioga a myfyrio yn cael eu cynnig i denantiaid, ac mae’r sefydliad yn bwriadu lansio ystod o fentrau ffitrwydd ychwanegol dros y misoedd nesaf.
Dywedodd Dr John, “Rydym yn croesawu pob syniad sy’n dod â chymuned Medicentre ynghyd, a'r cam o osod ein diffibriliwr yw'r un pwysicaf oll mae'n siŵr. Mae wedi bod mor gadarnhaol i weld tenantiaid yn croesawu’r cyfle i gael sgìl newydd, yn arbennig un mor bwysig â hwn.”