Datblygu cytundebau newyddu a gwarantau safonol newydd gyda chefnogaeth
8 Tachwedd 2018
Mae’r Athro Sarah Lupton o Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi chwarae rôl ganolog wrth ddatblygu cyfres o ddogfennau safonol ar gyfer y diwydiant. Cyhoeddwyd y rhain gan Gyngor y Diwydiant Adeiladu.
Mae cefnogaeth Prifysgol Caerdydd wedi cael ei chydnabod gan y gyfres newydd o gytundebau newyddu a gwarantau safonol ar gyfer y diwydiant a gyhoeddwyd gan Gyngor y Diwydiant Adeiladu (CIC). Cafodd y gyfres ei drafftio gan ei Phanel Atebolrwydd o dan arweiniad yr Athro Sarah Lupton, Cadeirydd Bersonol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru a Hyrwyddwr Atebolrwydd CIC.
Y Panel Atebolrwydd yw un o bwyllgorau hynaf CIC sydd ar waith o hyd. Mae gan y panel ugain aelod sy’n cynnwys cynrychiolwyr o aelodaeth CIC, y galwedigaethau cyfreithiol ac yswirwyr arbenigol. Mae aelodau’r prif Banel Atebolrwydd yn cwrdd bum gwaith y flwyddyn. Mae is-grwpiau llai wedi cael eu sefydlu hefyd i alluogi’r Panel Atebolrwydd i ymateb yn gyflym i faes sy’n newid yn gyflym.
Meddai’r Athro Lupton:
‘Roedd yn gyffrous gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol, gan gynnwys ymgynghorwyr, cyfreithwyr ac yswirwyr arbenigol o’r panel atebolrwydd. Mae’r cytundeb newyddu a grëwyd o’r dechrau yn ffurflen gwbl newydd. Rydym yn gobeithio y bydd yn helpu i safoni cytundebau ar draws y diwydiant gan ddileu’r angen am sawl dogfen yn ôl yr angen. Roedd y panel mewn cysylltiad â RIBA i wneud yn siŵr eu bod yn cyd-fynd â’i gontractau gwasanaeth proffesiynol newydd. Hoffai’r panel ddiolch i RIBA am ei gefnogaeth gyda’r fenter hon.’
Yr Athro Lupton sy’n cyfarwyddo rhaglen Meistr Gweinyddu Dylunio Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Mae’r rhaglen hon yn edrych ar sut mae prosesau dylunio yn cael eu rheoli yn ogystal â sut y rheolir prosesau caffael ac elfennau cyfreithiol ohonynt. Mae hefyd yn cyfarwyddo’r Diploma Ôl-raddedig mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol (RIBA Rhan 3).