Dyfarnu ysgoloriaeth addysg Gymraeg i un o fyfyrwyr y Gyfraith yng Nghaerdydd
1 Tachwedd 2018
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi ennill un o ysgoloriaethau William Salesbury, sy’n ysgoloriaeth o fri.
Bydd Heledd Ainsworth, sy’n astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg (LLB), ac sy'n dod yn wreiddiol o Landysul, Ceredigion yn derbyn ysgoloriaeth 2018 gan Gronfa Genedlaethol William Salesbury. Mae'r Gronfa yn dyfarnu dwy ysgoloriaeth gwerth £5,000 i fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol bob blwyddyn gyda'r diben o hyrwyddo a chefnogi Addysg Uwch drwy Gyfrwng y Gymraeg. Mae Heledd yn dilyn ôl-traed enillydd y llynedd Nest Jenkins sydd hefyd yn astudio yn yr Ysgol.
Enwir yr ysgoloriaethau er anrhydedd i William Salesbury (c.1507 – c.1584), ysgolhaig nodedig a phrif gyfieithydd, yn 1567, y Testament Newydd cyntaf i'r Gymraeg.
Sefydlwyd y Gronfa er mwyn rhoi cyfle i hyrwyddwyr Addysg Uwch drwy Gyfrwng y Gymraeg gyfrannu’n ariannol a chefnogi myfyrwyr sy’n astudio 100% o’u rhaglen gradd yn Gymraeg, wedi’u noddi gan y Coleg.
Dywedodd Heledd am ei llwyddiant, “Rwyf wrth fy modd i dderbyn yr anrhydedd chwenychedig hwn. Mae’n cydnabod pwysigrwydd astudio drwy gyfrwng y Gymraeg i helpu i ddarparu proses gyfreithiol a barnwraethol fwy dwyieithog. Bydd yr ysgoloriaeth yn cefnogi ac yn gwella fy astudiaethau ac yn archwilio ymhellach y defnydd o ieithoedd lleiafrifol o fewn y system gyfreithiol mewn gwledydd Ewropeaidd eraill.
Er bod Heledd yn ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol mae hi eisoes yn meddwl am y dyfodol ac mae hi’n gobeithio y bydd ei gradd yn rhoi’r cymhwysedd cyfreithiol dwyieithog iddi a fydd yn agor drysau i lawer o feysydd o fewn llywodraeth, gwleidyddiaeth, awdurdodau lleol, addysg a busnes. Pa yrfa bynnag y bydd yn ei dewis yn y pen draw, bwriad Heledd yw aros yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro René Lindstädt, Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, “Mae rhoi’r cyfle i’n myfyrwyr Cymraeg ddilyn eu hastudiaethau yn eu mamiaith yn rhywbeth sy’n hynod bwysig i Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac mae’n wych clywed bod Heledd yn cael cymorth yn ei hastudiaethau am y tair blynedd nesaf oherwydd yr ysgoloriaeth hon. Rydym yn falch mai ni yw ysgol gartref, nid yn unig Heledd ond Nest Jenkins a Gwenllian Owen sy’n gweithio fel cenhadon ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rydym yn hyrwyddwyr mawr o waith y Coleg ac yn gobeithio y byddwn yn parhau i ddenu myfyrwyr i’r Ysgol a fydd yn dewis astudio ein rhaglenni yn y Gymraeg.”
Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth William Salesbury, “"Rydym yn hynod falch o allu cefnogi myfyrwyr ym myd y gyfraith. Mae sicrhau bod myfyrwyr talentog, fel Heledd a Nest, yn cael cefnogaeth i astudio a datblygu mewn system gyfreithiol ddwyieithog yn rhan hanfodol o waith y gronfa."
“We are extremely proud of being able to support students studying law. Ensuring that talented students, like Heledd and Nest, receive support to study and develop in a bilingual legal system is an essential part of the fund’s work.”