Gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd yn ennill gwobr fawreddog am ganfod tonnau disgyrchol
31 Hydref 2018
Mae gwyddonydd a fu’n ymwneud â chreu’r canfodyddion hynod sensitif sydd eu hangen i ganfod tonnau disgyrchol am y tro cyntaf wedi derbyn gwobr fawreddog, sef Gwobr Philip Leverhulme.
Mae Dr Katherine Dooley, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, wedi ennill y wobr £100,000 am waith gwyddonol ‘sydd wedi cael effaith ryngwladol arwyddocaol’.
Mae Dr Dooley yn ffisegydd arbrofol sy’n arbenigo ar ddatblygu’r offer sydd ei angen er mwyn estyn allan ymhell i’r Bydysawd a chanfod tonnau disgyrchol.
Rhagfynegwyd tonnau disgyrchol yn gyntaf gan Albert Einstein dros 100 mlynedd yn ôl, ac maent yn grychdonnau bach yng ngofod-amser sy'n cael eu hallyrru o ganlyniad i ddigwyddiadau grymus, fel tyllau duon yn gwrthdaro.
Ar ôl treulio pedair blynedd preswyl yn yr Arsyllfa Tonnau Disgyrchol Ymyriaduron Laser (LIGO) yn UDA, rhoddodd Dr Dooley rai o’r prosesau allweddol yn eu lle fel ei bod hi’n bosibl canfod tonnau disgyrchol am y tro cyntaf erioed yn 2015 ar ôl degawdau o chwilio.
Gwnaed y darganfyddiad gan ddefnyddio dau ganfodydd yn UDA, wedi’u gwneud o arbrofion siâp L 4km o hyd sy’n bownsio laserau’n ôl ac ymlaen oddi ar gasgliad o ddrychau ac sy’n cael eu hystumio’n ffracsiynol pan fydd ton ddisgyrchol yno.
Roedd gwaith Dr Dooley yn canolbwyntio’n bennaf ar gynyddu nerth y laser fel y gallai ymchwilwyr edrych yn ddyfnach i mewn i’r Bydysawd ac felly bod ganddyn nhw fwy o siawns o wneud rhagor o ganfyddiadau. Bydd y technegau y mae Dr Dooley yn eu datblygu ar hyn o bryd yn bwysig hefyd i genedlaethau’r dyfodol o ganfodyddion tonnau disgyrchol, sy’n debygol o gael eu hadeiladu dros y degawdau i ddod.
Mae’r wobr yn dod wrth i Dr Dooley sefydlu rhaglen o ymchwil arbrofol i seryddiaeth tonnau disgyrchol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd hyn yn adeiladu ar yr arbenigedd sy’n arwain y byd yn y Brifysgol ar hyn o bryd, a chwaraeodd ran arwyddocaol hefyd wrth ganfod tonnau disgyrchol.
Roedd Prifysgol Caerdydd yn un o’r aelodau a sylfaenodd LIGO ac am y 30 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn datblygu meddalwedd ac algorithmau newydd sydd bellach wedi dod yn offer chwilio safonol er mwyn canfod y signalau sy’n anodd dod o hyd iddynt.
Cafodd Dr Dooley ei gradd doethuriaeth mewn Ffiseg o Brifysgol Florida yn 2011, cyn symud ymlaen i rolau ymchwil ôl-ddoethuriaeth yn Sefydliad Albert-Einstein yn Hannover, yr Almaen a Sefydliad Technoleg California. Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn 2018, roedd Dr Dooley yn Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol Mississippi, lle mae ganddi swydd ymchwil o hyd.
Yn 2017, cafodd Dr Dooley gydnabyddiaeth o fri, sef cael ei gwneud yn Gymrawd Terfynau gan Academi Genedlaethol y Gwyddorau yn UDA.
Bob blwyddyn, mae Ymddiriedolaeth Leverhulme yn rhoi tri deg o Wobrau Philip Leverhulme i gydnabod ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, y mae eu gwaith eisoes wedi cael effaith ryngwladol arwyddocaol, ac y mae eu gyrfa ymchwil i’r dyfodol yn eithriadol o addawol.
Yn ôl Yr Athro Matt Griffin, Pennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rwy’n hynod o falch bod gwaith arloesol Katherine wedi cael ei gydnabod gyda’r wobr fawreddog hon.
“Mae hi’n wyddonydd hynod o dalentog ac uchel ei pharch sydd eisoes wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol i faes seryddiaeth ar ddechrau ei gyrfa. Mae’n bosibl dadlau mai canfod tonnau disgyrchol oedd un o ddarganfyddiadau gwyddonol mwyaf y cyfnod modern ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gyfraniadau allweddol Katherine.
“Gyda chymorth y wobr hon gallwn barhau i ddatblygu ein rhaglen ymchwil i donnau disgyrchol yma ym Mhrifysgol Caerdydd a datblygu’r dechnoleg a’r technegau i’r dyfodol sydd eu hangen ar gyfer y genhedlaeth nesaf o arsyllfeydd tonnau disgyrchol.”