Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol
31 Hydref 2018
Caiff ymchwil gwyddorau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd ei dathlu mewn gŵyl wythnos o hyd.
Cynhelir yr ŵyl rhwng 5 a 10 Tachwedd, a bydd meysydd mor amrywiol â seicoleg plant, addysgu, iechyd y cyhoedd, pobl ifanc a gwleidyddiaeth yn cael eu rhannu ag ystod eang o gynulleidfaoedd.
Mae'r digwyddiadau'n cynnwys noswaith sy'n croesawu teuluoedd, lle gall rhieni siarad ag ymchwilwyr am ddatblygiad eu plant, sesiwn ryngweithiol lle mae pobl ifanc yn archwilio'r modd y mae cyfeillgarwch yn cael ei werthfawrogi ymysg eu cyfoedion, dadleuon ynghylch heddwch yn dod i'r wyneb yng Ngogledd Iwerddon, a thrafodaeth am don newydd o aelodaeth o undebau llafur, drwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol.
Hon fydd trydedd Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi'i threfnu mewn cysylltiad â'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Ei nod yw cyflwyno ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol a gynhelir ym mhrifysgolion y DU i'r cyhoedd.
Yn ôl yr Athro Gillian Bristow, Deon Ymchwil Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac Athro Daearyddiaeth Economaidd: "Mae’n bleser gennym allu rhoi llwyfan i gryfder ac ehangder yr ymchwil sy'n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Mae ein hymchwilwyr yn ymgymryd â gwaith sy'n arwain y byd ac yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n helpu i ddatblygu polisïau, gwasanaethau ac arloesedd – yma yng Nghymru yn ogystal â ledled y byd.
"Gobeithio y bydd pobl yn ymuno â ni yn ystod yr wythnos i ddysgu mwy, a dod i wybod pam nad yw ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol erioed wedi bod yn bwysicach wrth ddatrys y problemau cymdeithasol mawr yr ydym yn eu hwynebu heddiw."
Mae'r digwyddiadau yn ystod yr wythnos yn rhad ac am ddim ond rhaid cadw lle. Mae'r amserlen lawn a rhagor o wybodaeth bellach ar gael yma: www.caerdydd.ac.uk/festival-of-social-science
Mae ymchwil celfyddydau, dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol y Brifysgol yn cynnwys meysydd fel y diwydiannau digidol, creadigol a diwylliannol; llywodraethiant datganoledig, trefol a rhanbarthol; teulu, rhywedd, hawliau dynol; iechyd, meddygaeth ac anabledd; cynaliadwyedd a'r amgylchedd; addysg; gwaith; data gwyddorau cymdeithasol; troseddu a diogelwch; a diwylliannau, credoau ac ieithoedd dynol.
Mae'r Brifysgol yn datblygu SPARK – parc ymchwil cyntaf y byd ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol. Mae SPARK wedi'i seilio ar Gampws Arloesedd fydd yn cael ei adeiladu ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd yn ganolfan ar gyfer ymchwil gwyddorau cymdeithasol ar draws y Brifysgol ac yn dod ag academyddion a sefydliadau polisïau ac arferion ynghyd i ddatblygu atebion newydd i heriau byd eang pwysig.