Awyr iach, sgyrsiau iach
31 Hydref 2018
Mae sgyrsiau'n fwy ymatebol a chysylltiedig mewn amgylcheddau naturiol fel parciau a gerddi, yn hytrach na dan do, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Manceinion.
Recordiodd yr ymchwilwyr sgyrsiau rhwng plant tair a phedair oed a'u rhieni wrth iddynt grwydro un o barciau'r ddinas a chanolfan addysg dan do'r parc, a chanfod bod sgyrsiau yn amgylchedd naturiol y parc yn ennyn llawer mwy o ymateb ac yn fwy cysylltiedig, o'u cymharu â'r sgyrsiau yn y ganolfan addysg dan do.
Yn ôl Dr Thea Cameron-Faulkner, Uwch-ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Manceinion: "Mae ein hymchwil yn dangos y gall amgylcheddau naturiol wella rhyngweithio cymdeithasol i raddau helaeth, gan wella ansawdd sgyrsiau rhwng rhieni a'u plant yn yr achos hwn."
Ychwanegol yr Athro Merideth Gattis o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: "Un o'r pethau mwyaf heriol am gynnal sgwrs yw gwrando ac ymateb i'r hyn y mae pobl eraill yn ei ddweud. Mae canlyniadau ein hastudiaeth yn awgrymu bod un ffordd syml y gall pobl wella'r broses hon, sef treulio amser y tu allan mewn amgylcheddau naturiol.
"Mae ein canfyddiadau'n gam cyntaf pwysig tuag at feithrin gwell dealltwriaeth o'r modd y gall amgylcheddau naturiol ddylanwadu ar gyfathrebu, a sut y gellir eu defnyddio i lywio a gwella nifer o wasanaethau gan gynnwys addysg, lles plant a dylunio trefol.
Roedd y tîm wedi canolbwyntio ar deuluoedd â phlant tair a phedair oed gan fod gan y rhan fwyaf o blant lawer i'w ddweud ar yr adeg honno o'u bywydau, ond mae cydlynu â phartner sgyrsiol yn her ar adegau.
Yn ôl Dr Cameron-Faulkner: "Mae ein hastudiaeth yn cyflwyno dyluniad arbrofol newydd, sy'n ein galluogi i dynnu casgliadau achosol cryfach am fuddiannau amgylcheddau naturiol o'u cymharu ag astudiaethau cydberthynol blaenorol sy'n dangos bod cysylltiadau cadarnhaol rhwng mannau gwyrdd a deilliannau plant."
Cafwyd y sylw hwn gan Sam Williams, cyd-awdur adroddiad Arup Cities Alive: Designing for Urban Childhoods, nad oedd ynghlwm wrth yr astudiaeth: "Mae cyfathrebu ac ymgysylltu cadarnhaol rhwng rhieni a phlant yn allweddol ar gyfer datblygiad iach sy'n esgor ar fuddiannau gydol oes. Mae'r astudiaeth hon, sef y cyntaf o'i math, yn dangos pwysigrwydd cael mynediad at amgylcheddau lleol a naturiol er mwyn gwella'r berthynas hon. Mae gwneud yn siŵr bod cyfleoedd ar gyfer cysylltu'n ddyddiol â byd natur yn ffordd syml ond pwerus y gall dinasoedd gefnogi plant yn ogystal â'r rheini sy'n gofalu amdanynt, gan esgor ar oblygiadau sylweddol ar gyfer sut rydym yn cynllunio, dylunio a rheoli ein mannau cyhoeddus."
Ychwanegodd yr Athro Courtenay Norbury o'r Ysgol Seicoleg a Gwyddorau Iaith yng Ngholeg Prifysgol Llundain, nad oedd ynghlwm wrth yr ymchwil: "Mae'r iaith y mae plant yn meddu arni wrth ddechrau yn yr ysgol yn ddynodydd cryf iawn o'u gallu ieithyddol yn hwyrach, yn ogystal â llwyddiant addysgol a chymdeithasol cynnar. Felly, mae cynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu ieithoedd sydd wedi'u hymgorffori mewn rhyngweithio cymdeithasol o ansawdd uchel yn allweddol ar gyfer gwella'r gallu i gyfathrebu."
Mae ymchwil 'Responding to nature: Natural environments improve parent-child communication' wedi'i chyhoeddi yn y Journal of Environmental Psychology.