Yr Athro Christopher Peter Morley, BA, DPhil (1957-2018)
25 Hydref 2018
Trist iawn oedd clywed bod yr Athro Chris Morley wedi marw yn ddiweddar.
Ymunodd Chris ag Ysgol Gemeg Prifysgol Caerdydd yn 2006, yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig. Bu farw yn ei gartref yng ngorllewin Cymru ddydd Gwener 17 Awst 2018 wedi brwydr fer, ond dewr, yn erbyn salwch.
Cychwynnodd Chris ei yrfa ym myd cemeg yn 1976 yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, gan ennill gradd BA (Anrh) Dosbarth 1af mewn Cemeg yn 1980, ac yn ddiweddarach DPhil yn 1983 dan oruchwyliaeth Dr JC Green ar Topics in Organometallic Chemistry. Ar ôl treulio bron 7 mlynedd yn Rhydychen, cafodd Gymrodoriaeth gyda’r Gymdeithas Frenhinol i astudio yn Universität Bielefeld (yr Almaen) gyda’r Athro P Jutzi o 1983-1984. Arhosodd yn yr Almaen am ddwy flynedd arall, fel Stipendiat der Max-Planck-Gesellschaft yn Max-Planck-Institut für Kohlenforschung, a hynny yn Mülheim an der Ruhr gyda’r Athro G Wilke.
Yn dilyn y cyfnod hwn yn yr Almaen, cychwynnodd Chris ar ei rôl academaidd barhaol gyntaf, Darlithydd mewn Cemeg Anorganig ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast, o 1986-1989, cyn symud i Brifysgol Abertawe yn 1989, yn Ddarlithydd mewn Cemeg Anorganig. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, cyflawnodd lawer o rolau yn yr Adran Gemeg, gan gynnwys bod yn Is-ddeon y Gyfadran Wyddoniaeth.
Yn 2006 symudodd Chris i Brifysgol Caerdydd, a bu’n cyflawni sawl rôl academaidd yn yr Ysgol ac ar draws Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, gan gynnwys Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, Cadeirydd y Bwrdd Astudiaethau, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, ac aelod o’r Pwyllgor Safonau Academaidd.
Prif ddiddordebau ymchwil Chris oedd cemeg organofetalig a chydsymud. Roedd ganddo ddiddordeb brwd ym mhriodweddau cymhlygion metel trosiannol lle roedd y ligandau yn cynnwys seleniwm. Mae’r cyfansoddion hyn yn dal yn dargedau synthetig deniadol ar gyfer ystod o gymwysiadau, gan gynnwys dyfeisiau electrogemegol ac optegol newydd. Roedd ganddo ddiddordeb hefyd yn yr elfennau oedd yn deillio o brif elfennau grŵp cyclopentadienyl, a chyfansoddion cyclopentadienyl a seleniwm. Cadwodd ei chwilfrydedd fel cemegydd, a dechreuodd ymddiddori yn sylfaen gemegol gallu pridd i wrthsefyll dŵr, gan ddatblygu dulliau dibynadwy a chyffredinol i echdynnu, gwahanu a nodweddu’r cyfansoddion oedd yn gyfrifol am allu pridd i wrthsefyll dŵr.
Wrth addysgu, roedd ei brif ddiddordebau ym maes cemeg anorganig, a chyda threigl y blynyddoedd roedd wedi cyflwyno darlithoedd fwy neu lai ar bob agwedd o’r pwnc hwn. Roedd Chris yn athro ymroddedig, oedd â gofal mawr am ei fyfyrwyr. Nhw oedd yn dod gyntaf bob amser, ac roedd yn adnabod pob myfyriwr cemeg yn yr Ysgol wrth eu henwau.
Y tu allan i’r gwaith roedd wrth ei fodd yn teithio, yn chwarae criced a rygbi, ac roedd yn bianydd ardderchog. Roedd hefyd yn ei elfen yn mynd am dro hir gyda’i wraig Chris a’r ci.
Bydd pawb ohonom a weithiodd gyda Chris yn cofio cydweithiwr gonest a charedig dros ben. Ar ran holl gydweithwyr Chris, yn awr ac yn y gorffennol, estynnwn gydymdeimlad dwys a diffuant i’w wraig a’i ferch, Chris ac Anna, yn wyneb eu colled drasig cyn pryd.
Yr Athro Damien Murphy
Pennaeth yr Ysgol
Ysgol Cemeg
Prifysgol Caerdydd