'Cofleidio technoleg er Cymru well'
5 Tachwedd 2018
Gall technolegau digidol helpu i greu Cymru mae pob un ohonom eisiau byw ynddi, yn ôl academydd blaenllaw sy'n cadeirio adolygiad arloesedd digidol Cymru.
Wrth lansio galwad gyhoeddus am dystiolaeth, mae Phillip Brown o Brifysgol Caerdydd o'r farn mai nid o safbwynt economaidd yn unig y teimlir y chwyldro technolegol sydd ar gyrraedd.
"Os ydych yn darllen y straeon sy'n codi braw, gallem i gyd ddod i'r casgliad bod y robotiaid yn dod ar ôl ein swyddi. Go debyg y bydd y realiti ychydig yn wahanol. Er gwaetha'r heriau, mae cyfleoedd clir i Gymru ddefnyddio technoleg i wella sut rydym yn byw ac yn gweithio," meddai'r Athro Ymchwil Nodedig Anrhydeddus yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae panel arbenigol yr Athro Brown yn archwilio'r modd y bydd cynnydd mewn awtomeiddio, roboteg, deallusrwydd artiffisial, y Rhyngrwyd Pethau a data ar raddfa fawr yn effeithio ar economi Cymru yn y blynyddoedd i ddod.
Mae'r Adolygiad o Arloesedd Digidol ar gyfer yr Economi a Dyfodol Gwaith yng Nghymru wedi lansio arolwg cyhoeddus ar-lein i helpu i ddeall yr argraff sydd gan bobl o arloesedd digidol, a'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Cymru.
"Rwy'n awyddus i sicrhau bod yr arolwg yn gallu cynnal y sgwrs fwyaf eang posibl gydag ystod o randdeiliaid, nid dim ond y rheini ar flaen y gad o ran datblygu technoleg," meddai'r Athro Brown. "Dechrau'r sgwrs yw'r Alwad am Dystiolaeth hon, i raddau helaeth."
Mae rhanddeiliaid digidol blaenllaw eraill yn cytuno.
Yn ôl Ian Jones, cyd-sylfaenydd AMPLYFI: "Mae'r twf mewn cynnwys ffynhonnell-agored sydd ar gael ar y rhyngrwyd, law yn llaw â'r technolegau sy'n ein galluogi'n gynyddol i'w ddatgloi, yn dechrau trawsnewid y modd y gallwn feddwl am ddyfodol byd gwaith. Gall llywodraethau, bellach, ddylunio cynlluniau economaidd a'u rhoi ar waith, cefnogi mentrau ar gyfer datblygu'r sgiliau a'r galluoedd y bydd eu hangen yn y dyfodol, a meincnodi cynnydd byd-eang mewn modd nad oedd yn bosibl yn flaenorol."
Ychwanegodd Peter Sueref, Cyfarwyddwr Gwyddorau Data, Centrica: "Does dim rhagolwg clir o ran dyfodol byd gwaith mewn gwirionedd, ond rydym yn gwybod y bydd trawsnewid digidol yn effeithio arno.
"Mae'n rhaid i ni ystyried nifer o newidiadau: polisïau, y sector cyhoeddus, busnes, addysg, isadeiledd, ond yn bwysicaf oll, pobl Cymru. Gallwn ddeall a llunio effaith technoleg newydd yn y dyfodol drwy osod llwybr sy'n gweithio ar gyfer Cymru gyfan. Gadewch i ni dyfu fel cenedl a gosod ein naratif o gwmpas yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Gymraeg yn y dyfodol digidol."
Bydd Phil Brown yn gweithio gyda'i Banel Arbenigol i adolygu'r ymatebion a gafwyd a chynllunio'r camau nesaf er mwyn ennyn diddordeb pobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru.
Cafodd yr Adolygiad o Arloesedd Digidol ar gyfer yr Economi a Dyfodol Gwaith yng Nghymru ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2018. Nod yr arolwg yw cael cipolwg pellach ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag arloesedd digidol yng nghyd-destun economi Cymru a dyfodol byd gwaith.
Cyhoeddir adroddiad interim erbyn diwedd mis Tachwedd 2018, gydag awgrymiadau terfynol i ddilyn erbyn mis Mawrth 2019.