Arbenigedd data mawr yn rhoi sêl ar bartneriaeth arloesi
6 Tachwedd 2018
Mae Centrica plc, y cwmni ynni a gwasanaethau byd-eang yn ymuno â Phrifysgol Caerdydd i fanteisio ar arbenigedd data mawr.
Mae’r cwmni wedi llunio Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) gydag Ysgol Busnes Caerdydd i greu a gwreiddio ‘Proses Arloesi Garlam’.
Drwy wyddor data, bwriad y bartneriaeth yw cyflwyno manteision ariannol o wasanaethau, cynhyrchion newydd, enillion strategol o arloesi modelau busnes a diwylliant entrepreneuraidd gwell yn y cwmni.
Mae’r cydweithio’n cael ei arwain gan Luigi M. De Luca, Athro Marchnata ac Arloesi yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Ers nifer o flynyddoedd, mae’r Athro De Luca yn ymchwilio i arloesi gwasanaethau drwy ddefnyddio data mawr mewn sefydliadau mawr sefydliedig.
“Mae’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn cynnig cyfle neilltuol i gydredeg gwybodaeth academaidd Ysgol Fusnes Caerdydd â strategaeth arloesi tymor hir Centrica i gael manteision parhaus i fyd busnes,” meddai’r Athro De Luca.
“Mae fy ymchwil wedi canolbwyntio ar brosesau sefydliadol sy’n galluogi gweddnewid potensial technolegol gwyddor data, o dechnoleg a chymwyseddau dadansoddol i ddoniau dynol.
Mae Centrica plc, sydd â’i bencadlys yn Windsor, wedi’i restru yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain ac mae’n rhan o fynegai 100 cwmni FTSE.
Yn ôl Peter Sueref, Cyfarwyddwr Gwyddor Data ar gyfer Centrica UK: “Rydym yn falch iawn mai gyda Phrifysgol Caerdydd mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyntaf Centrica. Rydym eisiau dysgu’n ymarferol a thrwy ymchwil academaidd sut mae gwreiddio proses arloesi garlam ar gyfer Gwyddor Data fel y gallwn fodloni anghenion newidiol ein cwsmeriaid.”
Mae Prifysgol Caerdydd yn ddarparwr arbenigol Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth gydag amrywiaeth eang o gyrff preifat, cyhoeddus a Thrydydd Sector er mwyn trosglwyddo arbenigedd ac ymchwil academaidd.
Meddai Paul Thomas, Rheolwr Busnes yn y Gwasanaethau Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r Brifysgol wedi ffurfio dros 200 o bartneriaethau gyda sefydliadau bach a byd-eang ers i'r cynllun ddechrau yn y 1970au, gan ychwanegu gwerth gwirioneddol at ddiwydiant, economi'r DU, llywodraeth ac elusennau.
“Rydym wedi helpu ein partneriaid KTP i fynd i'r afael â nifer o broblemau, gan gynnwys hybu cynhyrchedd neu drawsnewid strategaethau a gwella gwasanaethau i bobl ddigartref.”