Tîm futsal y Brifysgol yn rhoi eu bryd ar Ewrop
24 Awst 2015
Dyma'r gamp gyntaf o'i math i brifysgol yn y DU yr wythnos hon, wrth i dîm futsal Prifysgol Caerdydd deithio i Montenegro i gystadlu yng Nghynghrair Pencampwyr UEFA.
Yn gynharach eleni, enillodd y tîm pêl-droed pump-bob-ochr elît gystadleuaeth chwim i gyrraedd y brig yng Nghwpan Cymru, gan alluogi'r tîm i gymhwyso ar gyfer y twrnamaint Ewropeaidd yr wythnos nesaf.
Bydd y clwb yn teithio i Montenegro i gystadlu yn erbyn timau o Iwerddon, Montenegro a Croatia yn rowndiau rhagarweiniol y twrnamaint.
Dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw brifysgol o'r DU gystadlu yn nhwrnamaint UEFA.
Meddai capten y tîm a myfyriwr yn Ysgol Deintyddiaeth y Brifysgol, Christopher Hugh: "Mae'r tîm wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi gwella'n aruthrol. Pan enillon ni Gwpan Cymru yn gynharach eleni, roedd pawb yn eu seithfed nef ac yn llawn cyffro wrth feddwl y byddem yn gallu profi ein hunain yn erbyn timau gorau Ewrop ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd UEFA. Cawsom gemau anodd cyn cyrraedd y gêm derfynol, ond roedd perfformiad cryf yn erbyn Briton Ferry yn ffordd arbennig o orffen.
"Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus ar gyfer y tîm, gyda'r fuddugoliaeth hon yn ogystal â chyrraedd y rownd gynderfynol ym Mhencampwriaeth Genedlaethol BUCS a dod yn ail yn y gynghrair genedlaethol.
"Mae pawb wedi bod yn paratoi ar gyfer Montenegro dros y misoedd diwethaf ac rydym mewn cyflwr da. Rydym wedi sicrhau ambell fuddugoliaeth gref mewn gemau cyfeillgar wrth baratoi, felly mae gennym rywfaint o fomentwm hefyd. Mae pob un ohonom yn llawn cyffro, ond rydym yn gwybod y bydd y gystadleuaeth yn ffyrnig, felly bydd angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni ar ein gorau, a gobeithio y byddwn yn gallu achosi cryn bryder i'r timau eraill a phrofi ein bod yn dîm da."
Dywedodd Pennaeth Chwaraeon Prifysgol Caerdydd, Stuart Vanstone: "Mae futsal yn gamp sydd ar dwf yn y Brifysgol, ond mae'n un yr ydym yn bendant am ei ddatblygu ymhellach. Eleni, rydym wedi cynnal dau dîm dynion a thîm menywod, ac mae pob un ohonynt yn cystadlu o fewn strwythurau cynghrair gystadleuol.
"Mae cymhwyso ar gyfer cystadleuaeth UEFA yn dyst i'n cynllun strategol ar gyfer y gamp, sydd hefyd yn cynnwys buddsoddi mewn cyfleusterau i sicrhau ein bod mewn sefyllfa i gynnal cystadlaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol mewn amgylchedd a fyddai'n recriwtio ac yn cadw'r athletwyr gorau."
Bydd y tîm yn chwarae ei gêm gyntaf ddydd Mercher 26 Awst 2015.