Ewch i’r prif gynnwys

Rhodd o £1.1m i Brifysgol Caerdydd gan ddyn busnes a dyngarwr o Gymru

26 Hydref 2018

CSL

Bydd rhodd o £1.1m i Brifysgol Caerdydd gan y dyn busnes blaenllaw a’r dyngarwr o Gymru, Syr Stanley Thomas OBE (Anrh. 2011) yn talu am ddarlithfa 550 sedd o’r radd flaenaf yn natblygiad newydd Prifysgol Caerdydd sef Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Bydd yr adeilad, sy’n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, yn ganolbwynt i Gampws Cathays ac yn gartref newydd i wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Bydd mannau astudio cymdeithasol, ystafelloedd ymgynghori a mannau tawel i fyfyrio yn ogystal â’r ddarlithfa 550 sedd fydd yn anrhydeddu enw Syr Stanley. Bydd yr adeilad yn sicrhau bod gwasanaethau cefnogi myfyrwyr llwyddiannus Prifysgol Caerdydd hyd yn oed yn fwy cynhwysol, hygyrch a chyfleus.

Y rhodd nodedig yma gan Syr Stanley yw’r rhodd fwyaf y mae un person wedi’i rhoi i Brifysgol Caerdydd hyd yma.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Rydym ni i gyd yma ym Mhrifysgol Caerdydd yn falch iawn o rodd ysbrydoledig a hael Syr Stanley.” Ni ddylid gorbwysleisio effaith drawsnewidiol cefnogaeth Syr Stanley ar fyfyrwyr, y Brifysgol, Caerdydd a Chymru.”

Dywedodd Syr Stanley: “Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad pwysig i Gaerdydd, Cymru a’r byd. Mae’r adeilad eiconig yma ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol yn hanfod, nid braint. Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn helpu i sicrhau bod pob myfyriwr, beth bynnag yw eu cefndir yn gallu ffynnu yn ystod eu hastudiaethau. Gobeithio y bydd rhoddwyr eraill yn mynd ati i gyflwyno rhoddion tebyg i fy un i.”

Bydd rhodd Syr Stanley yn helpu i wneud yn siŵr y bydd myfyrwyr Caerdydd o bob cefndir posib yn cael eu cefnogi’n dda o fewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth, ac mewn amgylchiadau heriol. Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn cynyddu cryfder presennol Prifysgol Caerdydd mewn cefnogi iechyd meddwl a lles, materion ariannol a gyrfaol ein Myfyrwyr - gan wella ein hamgylchedd dysgu ac addysgu wych.

Dywedodd ffrind oes Syr Stanley, yr Athro Syr Mansel Aylward o Brifysgol Caerdydd: “Hoffwn ddiolch i Syr Stanley ar ran yr holl fyfyrwyr yr wyf wedi’i addysgu, a phobl Merthyr lle cawsom ein magu. Yn ogystal â’r ymrwymiadau cofiadwy y mae ef wedi’u gwneud i’n tref enedigol a phobl Cymru dros y blynyddoedd, bydd y rhodd sylweddol yma yn effeithio ar iechyd, hapusrwydd a lles myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn uniongyrchol am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr: Mae rhodd Syr Stanley yn nodi digwyddiad dyngarol drawsnewidiol i Brifysgol Caerdydd. Mae’n rhyfeddol gallu dathlu’r haelioni yma gan Gymro sydd wedi cyfrannu at gymaint o sefydliadau Cymreig a Phrydeinig ar hyd y blynyddoedd. Rydym yn hynod ddiolchgar i Syr Stanley am ei gefnogaeth hirsefydlog i ymchwil Prifysgol Caerdydd, ac yn awr i fyfyrwyr Caerdydd. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu effaith ei rodd tra bod yr adeilad yn cael ei adeiladu, pan fydd yn cael ei agor ym mlwyddyn academaidd 2020-21, ac am flynyddoedd i ddod.”

Rhannu’r stori hon

Dysgwch fwy am sut mae Prifysgol Caerdydd wedi cael budd o fod â ffrindiau a chefnogwyr hael fel chi.