Sut mae technolegau ar-lein yn trawsnewid troseddu trefnedig rhyngwladol
24 Hydref 2018
Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn arwain prosiect ymchwil newydd mawr fydd yn asesu sut mae technolegau newydd yn dylanwadu ar droseddu trefnedig rhyngwladol (Cyber-TNOC).
Mae’r Athro Mike Levi, Dr Luca Giommoni a’r Athro Matthew Williams, sy’n droseddegwyr yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ynghyd â’r Athro Pete Burnap o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg wedi cael gafael ar arian gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) i archwilio’r ffyrdd y mae troseddwyr yn defnyddio technolegau cyfrifiadurol ar-lein.
Bydd eu gwaith yn canolbwyntio ar gaethwasiaeth fodern, gwerthu cyffuriau anghyfreithlon, lledaenu meddalwedd ddrwg a gwyngalchu arian, gan gynnwys defnyddio ‘mulod arian’. Mae’r troseddau hyn yn cynhyrchu llawer o ddata ar-lein o ganlyniad i’r holl gyfathrebu a thechnolegau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan fasnachwyr anghyfreithlon, codwyr meddalwedd ac ar gyfer trafodiadau anghyfreithlon.
Drwy gasglu’r data newydd hwn, yn ogystal â dod â chyfweliadau a chofnodion gweinyddol ynghyd, bydd y tîm yn cynhyrchu’r llun mwyaf eglur hyd yn hyn o sut mae technolegau ar-lein yn dylanwadu ar droseddu trefnedig rhyngwladol.
Bydd yr astudiaeth yn dwyn ynghyd academyddion o Brifysgol Cattolica del Sacro Cuore Milan, Prifysgol Surrey a Phrifysgol Montreal.
Bydd y tîm yn gweithio’n agos gyda chyrff o’r sectorau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys CIFAS, sy’n sefydliad atal twyll, cwmni gwasanaethau proffesiynol Deloitte, Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS).
Meddai’r Athro Levi, sy’n cynghori Adran Europol dros Asesu Bygythiadau gan Droseddu ar y We: “Wrth i gymdeithasau ar draws y byd fynd yn fwyfwy cydgysylltiedig a digidol, mae troseddu trefnedig yn ymaddasu i’r dirwedd newydd hon ac yn integreiddio technolegau newydd i mewn i’r ffyrdd y maent yn gweithio. Mae data Europol yn dangos cynnydd sylweddol mewn grwpiau rhyngwladol sy’n gweithredu o fewn yr UE yn 2017, o’u cymharu ag yn 2013, ac yn eu dulliau o hwyluso eu gweithgareddau ar-lein hefyd.
“Yn Ebrill 2018, fe arestiodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol grŵp o droseddwyr oedd yn gwerthu cyffuriau anghyfreithlon yn y DU, yr UD, Canada, Awstralia, yr Ariannin a Singapôr drwy wefan ar y we dywyll. Fe wnaeth y gang Rwsiaidd, oedd yn gyfrifol am ‘botnet Koobface’ a oedd yn lledaenu drwy rwydweithiau cymdeithasol, heintio hyd at 800,000 o beiriannau ar draws y byd, gan ennill $2 filiwn y flwyddyn.
Meddai’r cyd-ymchwilydd Dr Luca Giommoni: “Mae troseddu trefnedig yn newid yn gyflym. Mae angen i ymchwilwyr a gweithwyr yn y maes ddatblygu dulliau arloesol o ymateb i sut mae grwpiau troseddu trefnedig yn camddefnyddio technolegau ar-lein.
“Y prosiect hwn fydd y cyntaf i adeiladu sail gref o dystiolaeth er mwyn llywio’r gwaith o lunio polisïau. Bydd yr ymchwil yn dadansoddi mathau newydd a thraddodiadol o ddata drwy ddefnyddio dadansoddiadau o rwydweithiau cymdeithasol a deallusrwydd artiffisial. Bydd y fath waith yn gallu trawsnewid sut gall llywodraethau, cyfiawnder troseddol a’r sector preifat fynd i’r afael â’r troseddau hyn sy’n cael effaith enfawr ar draws y byd.”
Bydd y tîm yn cychwyn eu hymchwil ym mis Ionawr 2019, a disgwylir i’w canfyddiadau cyntaf gael eu cyhoeddi yn 2020-21.