Blas ar fywyd academaidd
24 Hydref 2018
Mae myfyrwyr ar draws Prifysgol Caerdydd wedi cael blas ar fywyd academaidd fel rhan o un o fentrau ymchwil israddedig mwyaf y Deyrnas Unedig.
Mae Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd (CUROP) yn gyfle unigryw i fyfyrwyr a staff weithio ar y cyd ar brosiect ymchwil yn ystod gwyliau’r haf.
Eleni, llwyddodd ymchwilwyr o Ysgol Fusnes Caerdydd i sicrhau cyllid ar gyfer y nifer mwyaf o leoliadau myfyrwyr o’r Ysgol hyd yma.
Roedd y prosiectau’n amrywio o droseddau nad adroddwyd amdanynt i effaith a gwaddol cynnal gwyliau, a thrwy’r rhaglen cafodd myfyrwyr israddedig gyfle i samplo ymchwil fyw, gwella’u sgiliau academaidd a throsglwyddadwy, a gwneud penderfyniad mwy gwybodus ynghylch datblygu eu hymchwil ar lefel ôl-raddedig.
Gwneud pob ymdrech
Dywedodd Jennifer Evans, a fu gynt yn Rheolwr y Swyddfa Ymchwil yn Ysgol Fusnes Caerdydd: “Dyma ein carfan fwyaf erioed...”
Mae’r 19 a fu’n cymryd rhan yn CUROP eleni, oedd yn dod o Ysgol Fusnes Caerdydd a’r Ysgolion Daearyddiaeth a Chynllunio, Meddygaeth, Biowyddorau, Ffiseg a Seryddiaeth a Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, wedi elwa o fwy o ymgysylltu, gyda phosteri’n hyrwyddo prosiectau ymchwil unigol, hyfforddiant ystadegol cyfrifiadurol ar ‘R’ a digwyddiadau cymdeithasol gyda myfyrwyr PhD a goruchwylwyr presennol.
Nid dim ond y myfyrwyr sy’n elwa o CUROP. Yn achos staff academaidd, gall CUROP gyfrannu’n sylweddol at gynnydd prosiectau ymchwil a chynnig staff ychwanegol gwerthfawr yn ystod yr haf.
Dywedodd Yan Chun Derek Li, myfyriwr ail flwyddyn BSc Daearyddiaeth (Ddynol) a Chynllunio o Hong Kong: “Mae’r cyfle i wneud gwaith ymchwil i’r brifysgol yn rhywbeth newydd a gwerthfawr i fi...”
Llywio profiad y myfyrwyr
Yn ogystal â’r 19 myfyriwr CUROP yn Ysgol Fusnes Caerdydd, mae pedwar Prosiect Arloesedd Addysg Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (CUSEIP) ar waith hefyd.
Mae prosiectau CUSEIP yn galluogi myfyrwyr i weithio ar brosiectau gwella dysgu ac addysgu a fydd yn helpu i lywio profiad y myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ôl Dr Jane Lynch, Cyfarwyddwr Profiad y Myfyriwr ac Uwch-ddarlithydd mewn Rheoli Cyflenwyr yn Ysgol Fusnes Caerdydd: “Mae hwn yn gyfle unigryw i fyfyrwyr leisio barn a gweithio ar y cyd i wella’u profiadau eu hunain a rhai eu cymheiriaid yn y brifysgol...”
Ddiwedd yr haf, bydd myfyrwyr CUROP a CUSEIP o’r holl ysgolion academaidd yn dod ynghyd am ddiwrnod i arddangos posteri am eu gwaith ymchwil, gan rannu profiadau a lledaenu canfyddiadau i gynulleidfa ehangach Prifysgol Caerdydd.
Eleni cynhelir yr arddangosfa yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Mercher 24 Hydref o 12:30 – 15:00.
Dywedodd yr Athro Malcolm Beynon, Deon Cyswllt Technoleg a Data yn Ysgol Fusnes Caerdydd: “Bob blwyddyn bydda i’n cymryd rhan yn y prosiectau hyn ac yn rhyfeddu at frwdfrydedd y myfyrwyr a’u hawydd i weithio’n galed...”