Academydd o Gaerdydd ar restr fer Gwobr T.S. Eliot
24 Hydref 2018
Bardd ar restr fer y wobr fwyaf nodedig ym marddoniaeth Prydain
Mae Ailbhe Darcy, darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol, wedi'i gosod ar restr fer Gwobr T.S. Eliot 2018. Mae ei hail gasgliad, Insistence, yn un o ddeg gwaith ar y rhestr fer mewn blwyddyn a welodd fwy o geisiadau nag erioed.
Dyfernir y wobr o £25,000 yn flynyddol am y casgliad gorau o farddoniaeth newydd a gyhoeddwyd yn y DU neu Iwerddon ac fe'i galwyd 'y Wobr y mae'r rhan fwyaf o feirdd yn dymuno ei hennill' gan y Cyn Fardd Lawryfog, Andrew Motion.
'Yn wyneb gwybodaeth ofnadwy, mae Darcy wedi cyflawni rhywbeth oedd bron yn amhosibl: casgliad sydd er iddo gael ei ysgrifennu mewn amser, yn ymddangos fel pe bai'n parhau’n dragywydd. Yn nwylo ffyrnig Darcy, sy'n symud geiriau, mae dyfodol barddoniaeth yn ymddangos yn sicr, hyd yn oed os nad oes dim arall.' - Maria Johnston, BODYLiterature
Dylai plentyn newydd olygu gobaith. Ond beth os nad yw hynny'n wir bellach? Mae Insistence wedi'i osod yn Ardaloedd Ôl-ddiwydiannol America, mewn cyfnod o newid hinsawdd a therfysg, ac mae'n ystyried cyfrifoldeb rhiant i'w phlentyn, cyfrifoldeb y bardd i'r darllenydd, a breguster yr unigolyn yn wyneb argyfwng byd-eang, gan dalu teyrnged i alfabet ganInger Christensen yn 1981.
Dywed Dr Darcy am ei chasgliad diweddaraf: "Mae Insistence yn gwneud ei orau i wynebu realiti newid hinsawdd a'r argyfwng byd-eang heb wingo. Mae'n anrhydedd mawr bod y gyfrol wedi’i chynnwys ochr yn ochr â gwaith beirdd mor wych, ac mae'n adlewyrchu amrywiaeth a phrysurdeb barddoniaeth eleni."
Ganwyd Ailbhe Darcy yn Nulyn a chyrhaeddodd restr fer Gwobr dlr Strong Iwerddon am ei chasgliad cyntaf mewn cyfrol sef Imaginary Menagerie. Mae ei gwaith hefyd wedi ymddangos ym mlodeugerddi Bloodaxe Identity Parade a Voice Recognition.
Dywedodd cadeirydd panel beirniaid 2018, Sinead Morrissey: "Mae barddoniaeth yn ffurf gelfyddydol sy'n ffynnu. Darllenom ni 176 o gasgliadau gan amrywiaeth eang o gyhoeddwyr barddoniaeth newydd a sefydledig, ac roedd yn fraint cael gwrando ar sgwrs mor fywiog, amrywiol a phrysur. Roedd yn anodd dewis ein deg cyfrol wych o farddoniaeth y flwyddyn - gyda llawer ohonynt yn gasgliadau cyntaf. Gyda'i gilydd maen nhw'n cynnig iaith fywiog, meistrolaeth hyderus ar ffurf a safbwyntiau ffres, soffistigedig ar ein cyfnod ansicr."
Y beirdd ar restr fer TS Eliot 2018 yw Ailbhe Darcy, Terrance Hayes, Zaffar Kunial, Nick Laird, Fiona Moore, Sean O’Brien, Phoebe Power, Richard Stott, Tracy K Smith a Hannah Sullivan. Bydd pob bardd ar y rhestr fer yn derbyn £1,500 gyda'r enillydd yn ennill £25,000, y wobr fwyaf o’i math yn y DU ac Iwerddon.
Mae Gwobr Barddoniaeth TS Eliot yn nodedig ymhlith gwobrau barddoniaeth am ei phanel beirniadu o feirdd profiadol. Fe'i sefydlwyd yn 1993 i ddathlu deugain mlwyddiant y Poetry Book Society ac i anrhydeddu'r bardd a'i sefydlodd.
Cyhoeddir Gwobr T.S. Eliot 2018 mewn seremoni wobrwyo arbennig ddydd Llun 14 Ionawr 2019 yn y Royal Festival Hall.