O Funud i Fisoedd
24 Hydref 2018
Yn ôl adroddiad, mae angen i lywodraethau ac awdurdodau heddlu ar draws y byd roi gwell ystyriaeth i'r niwed posibl a grëir gan y cyfryngau torfol a chymdeithasol yn dilyn digwyddiadau terfysgol.
Mae academyddion o Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd yn arwain tîm rhyngwladol o ddadansoddwyr o Brifysgol De Cymru Newydd, Prifysgol Talaith Michigan a Chymdeithas Canada er Plismona ar sail Tystiolaeth, er mwyn dysgu gwersi yn sgîl ymchwilio i ymosodiadau terfysgol diweddar yn y DU, yr UD, Canada, Seland Newydd ac Awstralia. Drwy adolygu'r holl ymchwil sydd wedi'i chyhoeddi am rôl y cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol yn sgîl ymosodiadau terfysgol, ynghyd ag astudiaethau achos manwl o ddigwyddiadau penodol, mae'r astudiaeth wedi cynhyrchu tystiolaeth newydd, a chynnig cipolwg newydd ar y modd y gall sylw gan y cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol gynyddu peryglon cyhoeddus terfysgaeth, a'r hyn sy'n gweithio wrth ostwng effeithiau o'r fath.
Daeth y tîm ymchwil i'r casgliad y gall ymosodiadau o'r fath gael effaith negyddol am amser maith ar ôl y digwyddiad gwreiddiol, wrth i ystod eang o leisiau gystadlu drwy gyfrwng cyfryngau'r brif ffrwd, a'r cyfryngau cymdeithasol.
Dan arweiniad yr Athro Martin Innes, cyfarwyddwr CSRI, mae'r tîm o academyddion wedi datblygu fframwaith ‘O Funud i Fisoedd’ i helpu awdurdodau i ffurfio strategaethau cadarn er mwyn rheoli'r ymatebion ar-lein yn dilyn digwyddiadau difrifol. Comisiynwyd y gwaith gan Weithgor Atal Twristiaeth Gweinidogol y Pum Gwlad – sy'n cynnwys llywodraethau'r DU, Canada, UDA, Awstralia a Seland Newydd.
Mae cyfathrebiadau ar ôl digwyddiadau terfysgol yn aml yn arwain at gynydd mewn troseddau casineb, yn annog eithafiaeth ac yn danwydd iddo ac yn hybu gwybodaeth anwir a sïon. Yn ôl ymchwilwyr, rhaid i lywodraethau, yr heddlu ac eraill sy'n ymwneud â diogelwch cyhoeddus fod yn barod i gynnig gwybodaeth fanwl gywir a rheolaidd, er mwyn cadw goblygiadau negyddol mor isel â phosibl.
Mae'r adroddiad yn datgan: "Bwriedir i drais terfysgol fod yn fodd o bryfocio er mwyn ennyn ymateb dwys a byw; mae'r diffyg cymharol yn y modd y rheolir sefyllfaoedd ar ôl y digwyddiadau... yn fan gwan ar hyn o bryd mewn nifer o fframweithiau gwrth-derfysgol llywodraethol."
Ychwanega: "Mae'r cyfathrebu cynyddol yn galluogi grwpiau gwahanol i ddatblygu ffyrdd eraill o ddadansoddi a fframio'r un digwyddiad. O ganlyniad, yn nodweddiadol mae naratif ac adroddiadau lluosog yn rhan o'r hinsawdd wedi'r digwyddiad.
"Mae trais terfysgol wedi'i ddylunio'n bwrpasol i 'godi braw, hollti ac ysgogi' gwahanol gynulleidfaoedd cyhoeddus, ac felly mae'n hanfodol deall a rheoli dynameg yr ymateb cyhoeddus i'r pryfociadau hynny."
Y llynedd, cyhoeddodd yr Athro Innes a'i dîm adroddiad yn nodi defnydd systematig o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ffug i ledu gwybodaeth anwir yn fwriadol, sy’n gysylltiedig â Rwsia, i chwyddo effeithiau cyhoeddus pedwar o ymosodiadau terfysgol a ddigwyddodd yn y DU yn 2017 – ar Bont Westminster, Manchester Arena, Pont Llundain a Pharc Finsbury.
Yn ôl yr Athro Innes: "Dros tua'r pum mlynedd diwethaf, mae mecanwaith a dynameg terfysgaeth, a'r modd yr hysbysir amdano drwy gyfrwng ffynonellau ar y cyfryngau, wedi newid i raddau helaeth. Bu amrywiad o ran cymhelliant ideolegol, a phroses o symud tuag at fethodolegau sy'n cwmpasu'r sbectrwm llawn ac yn amrywio o fomio i ymosodiadau â chyllyll neu gan ddefnyddio moduron. Dros yr un cyfnod, mae rhesymeg y cyfryngau a'r amgylchedd gwybodaeth wedi’i thrawsnewid yn sylfaenol.
Ariannwyd yr adroddiad gan Ganolfan Canada er Ymgysylltu Cyhoeddus ac Atal Terfysgaeth y Llywodraeth Ffederal (Canolfan Canada) ar ran Rhwydwaith Ymchwil a Datblygu'r Pum Gwlad (5RD), i gefnogi Gweithgor Gweinidogol Atal Eithafiaeth Terfysgol y Pum Gwlad. Mae Canolfan Canada'n cydweithio â phartneriaid rhyngwladol er mwyn helpu i nodi bylchau mewn gwybodaeth wrth atal radicaleiddio at ddibenion treisgar.
Mae From Minutes to Months: A rapid evidence assessment of the impact of media and social media during and after terror events, ar gael yma: www.crimeandsecurity.org/publications