Ceir heb yrwyr: heip ynteu rywbeth anochel?
22 Hydref 2018
Bydd y darlledwr sydd wedi ennill gwobrau, Christian Wolmar, yn dweud wrth seminar cyhoeddus yng Nghaerdydd bod yr heip yn ymwneud â cheir heb yrwyr yn cuddio'r gwersi sydd i'w dysgu o bolisïau trafnidiaeth byd-eang sydd wedi methu.
Yn ôl Mr Wolmar, sy'n arbenigwr ar drafnidiaeth, mae dallu pobl gydag adroddiadau am fuddion cerbydau ymreolaethol yn 'tynnu sylw mewn ffordd beryglus'.
"Nid yn unig mae'n seiliedig ar asesiad ffug o dechnoleg, ond mae hefyd yn rhagweld dyfodol dystopaidd i drafnidiaeth: gyda thrafnidiaeth unigol breifat yn disodli gwasanaethau cyhoeddus,” dywedodd.
Mae'r awdur, fydd yn traddodi ei sgwrs fel rhan o Rwydwaith Ymchwil Dyfodol Trafnidiaeth Prifysgol Caerdydd, yn credu nad yw'r modelau trafnidiaeth a gynigir gan gwmnïau ceir heb yrwyr fel cwmni Waymo o'r Unol Daleithiau, yn ymarferol.
"Y perygl yw na fydd y rheini sy'n creu polisi trafnidiaeth yn derbyn hyn ac felly byddant yn parhau i geisio addasu i'r weledigaeth anghyraeddadwy hon," dywedodd.
Cynhelir seminar Mr Wolmar gyda'r Athro Lorraine Whitmarsh, o'r Ysgol Seicoleg a Chanolfan Tyndall ar gyfer Ymchwil Newid Hinsawdd.
"Mae cerbydau ymreolaethol yn cael eu croesawu fel datrysiad chwyldroadol i lawer o broblemau trafnidiaeth, gan gynnig profiadau teithio mwy diogel, mwy effeithlon a mwy pleserus, a chynyddu symudedd i bobl anabl a grwpiau eraill na allant yrru," dywedodd yr Athro Whitmarsh.
"Ond prin fod goblygiadau llawn y symudiad at fflyd sy'n ei yrru ei hun - lle mae eich cerbyd yn estyniad o'r swyddfa, y cartref neu'r dafarn - wedi'u harchwilio, ac mae angen i ni gael trafodaeth gymdeithasol sy'n holi ai dyma'r dyfodol rydym ni'n ei ddymuno i'r system drafnidiaeth. Mae Christian yn cynnig safbwynt ar gerbydau ymreolaethol sy’n wahanol i'r optimistiaeth dechnegol bresennol fydd yn helpu i annog y drafodaeth hon."
Cynhelir y ddarlith rhwng hanner dydd ac 1pm ar 8 Tachwedd yn Adeilad Syr Martin Evans, Rhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd CF10 3AX.
Digwyddiad tocynnau yn unig yw hwn. I archebu, cliciwch yma.