Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr daeareg yn cael ei hanrhydeddu yng Ngwobrau Cenedlaethol y Myfyrwyr

22 Hydref 2018

Mae Manon Carpenter, myfyriwr ail flwyddyn MEsci Daeareg (Rhyngwladol), wedi’i gwobrwyo yng Ngwobrau Cenedlaethol y Myfyrwyr y Sefydliad Chwarela.

Y Sefydliad Chwarela yw’r corff proffesiynol rhyngwladol ar gyfer chwarela, deunyddiau adeiladu a’r diwydiannau echdynnu a phrosesu cysylltiedig, gyda thros 6,000 o aelodau mewn hanner cant o wledydd ar draws y byd. Eu nod yw hyrwyddo gwelliannau blaengar ym mhob agwedd ar berfformiad gweithredol drwy gyfrwng addysg a hyfforddiant.

Cafodd Manon, sydd ar leoliad astudio tramor ym Mhrifysgol Colombia Brydeinig, Vancouver ar hyn o bryd, ei henwebu am ei gwaith caled parhaus a’i hangerdd tuag at ei chwrs, yn ogystal ag am ddangos potensial cryf i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant fforio am fwynau. Mae hi’n un o saith myfyriwr yn unig o’r DU a enillodd wobr, gan dderbyn tystysgrif yn cydnabod ei chyfraniad, yn ogystal ag aelodaeth myfyriwr yn y Sefydliad Chwarela yn rhad ac am ddim am ddwy flynedd. Drwy fod yn aelod, bydd gan Manon fynediad at gyngor amhrisiadwy am y sgiliau, yr hyfforddiant a’r anghenion datblygiad personol sydd eu hangen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus ym myd diwydiant.

James Thorne yw Prif Swyddog Gweithredol IQ: “Mae’r daearegwyr ifanc hyn [...] yn gallu manteisio ar wahoddiadau i ddigwyddiadau rhwydweithio, cael cymorth proffesiynol am ddatblygu gyrfa trwy gylchgrawn misol y diwydiant Quarry Management ac Agg-Net.com, yn ogystal â mynd i weminarau addysgol gan arbenigwyr diwydiant, ymhlith llu o gyfleoedd eraill.”

Mae pawb yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr wrth eu bodd bod Manon wedi cael y wobr, ac rydym yn edrych ymlaen at ei chroesawu ‘nôl i Gaerdydd ar ddiwedd ei blwyddyn dramor.

Rhannu’r stori hon