'Adeiladu gyda natur i wneud ein dinasoedd yn fwy gwyrdd
19 Awst 2015
Nod prosiect 'seilwaith gwyrdd' yw gwneud ardaloedd trefol yn fwy cynaliadwy
Mae'r Brifysgol yn bartner mewn grant ymchwil clodwiw gan lywodraethau'r DU ac UDA i ddatblygu a chyflwyno 'seilwaith gwyrdd' mewn ardaloedd trefol ledled y byd.
Drwy gydweithio â Phrifysgol Florida a Phrifysgol Indonesia, bydd ymchwilwyr o'r Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn ymchwilio i'r modd y gellir trawsnewid sut y rheolir dŵr a llifogydd, cynyddu cynaliadwyedd a lleihau ôl troed ecolegol adeiladau a dinasoedd o ganlyniad i wneud adeiladau a dinasoedd yn fwy gwyrdd.
Yn ystod y prosiect dwy flynedd, bydd y bartneriaeth yn ceisio ymchwilio a datblygu ffyrdd newydd o 'adeiladu gyda natur' ac ystyried sut gellir trosglwyddo'r arferion hyn o un lle i'r llall.
Yn ôl Dr Andrea Frank, sy'n arwain y prosiect ar ran Prifysgol Caerdydd ac sy'n gweithio yn yr Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth: "Hanfod seilwaith gwyrdd yw bod ymyriadau yn gweithio gyda natur ac yn manteisio ar ei nodweddion, yn hytrach na brwydro yn eu herbyn.
"Drwy fanteisio ar y llu o fuddion a gynigir gan seilwaith gwyrdd, gobeithiwn y gall hyn gynnig manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol i UDA ac Ewrop yn ogystal â gwledydd datblygol ledled y byd. I allu gwneud hyn, bydd angen i ni ddatblygu dulliau sy'n ystyried diwylliant, gwybodaeth ac arbenigedd lleol yn ofalus."
Mae 'coedwigaeth drefol' yn enghraifft gyffredin o seilwaith gwyrdd lle mae coedwigoedd yn cael eu plannu mewn dinasoedd i reoli dŵr storm a gostwng tymheredd mewn dinasoedd. Mae 'toeon gwyrdd' yn enghraifft arall lle mae toeau'n cael eu gorchuddio naill ai'n rhannol neu'n gyfan gwbl gan lystyfiant i amsugno dŵr glaw, cynyddu inswleiddio ac, unwaith eto, gostwng y tymheredd mewn ardaloedd trefol llawn adeiladu.
Drwy gyfres o weithdai a gynhelir gan y tri phartner yn Jakarta, Caerdydd a Florida, bydd y prosiect yn dod ag arbenigedd ynghyd ym meysydd: adeiladau cynaliadwy a gwyrdd; modelu sut y defnyddir ynni a dŵr mewn adeiladau ac amgylcheddau trefol; dylunio trefol; a chynllunio.
Mae'r grant wedi'i roi i'r consortiwm hwn o brifysgolion yn rhan o Gynllun Arloesedd Byd-eang ehangach (GII) — ymrwymiad ar y cyd gan lywodraethau'r DU ac UDA i gryfhau'r prosiectau ymchwil ar y cyd rhwng prifysgolion y DU ac UDA ac economïau sy'n datblygu.
Meddai Evan Ryan, yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Materion Diwylliannol: "Mae'r Cynllun Arloesedd Byd-eang (GII) yn rhoi cyfle i lywodraethau UDA a'r DU gryfhau ein partneriaeth hirsefydlog a chadarn er mwyn cydweithio â nifer o bartneriaid ym Mrasil, Tsieina, India ac Indonesia. Mae'r cynigion rhagorol gan y rhai sydd wedi cael y dyfarniad eleni yn dangos eu harbenigedd o bynciau yn ogystal â'u hymrwymiad amlwg at gydweithio i fynd i'r afael â phroblemau mwyaf dyrys y byd."