Cyfarwyddwr newydd Sefydliad Catalysis Caerdydd wedi’i benodi
19 Hydref 2018
Mae Prifysgol Caerdydd wedi penodi'r Athro Duncan Wass yn Gyfarwyddwr newydd Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI).
Mae'r Athro Wass yn ymuno â CCI o Brifysgol Bryste. Mae ganddo gyfoeth o brofiad wrth ddatblygu catalyddion i fynd i'r afael â rhai o heriau pwysicaf y gymdeithas.
Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae CCI wedi sefydlu ei hun yn un o ganolfannau blaenllaw'r byd ar gyfer catalysis. Mae'n dod â gwerth miliynau o bunnoedd o gyllid ac yn llunio partneriaethau llwyddiannus gyda diwydiant ac academia yma yn y DU ac ar draws y byd.
Catalysis yw'r broses o gyflymu adweithiau cemegol er mwyn gwneud cynhyrchion yn rhatach, glanach, mwy diogel a mwy cynaliadwy. Amcangyfrifir bod angen catalydd ar 85 y cant o gynhyrchion y byd rywbryd yn ystod eu cyfnod cynhyrchu.
Yn wreiddiol o Swydd Gaerlŷr, cwblhaodd yr Athro Wass ei radd israddedig ym Mhrifysgol Durham cyn ymgymryd â PhD mewn catalysis yng Ngholeg Imperial, Llundain. Dechreuodd ei yrfa yn gweithio i BP Chemicals Ltd yn eu labordai yn Sunbury-on-Thames cyn symud i safle ymchwil BP ym Mrwsel, Gwlad Belg.
Ymunodd yr Athro Wass â Phrifysgol Bryste yn Ionawr 2004, a chafodd ei ddyrchafu’n Athro Catalysis yn 2012. Mae wedi arwain cysylltiad Bryste yn y Ganolfan Catalysis ar gyfer Hyfforddiant Doethurol gyda chyd-weithrediad prifysgolion Caerfaddon, Bryste a Chaerdydd. Mae hefyd yn eistedd ar y grŵp llywio ar gyfer Canolfan Catalysis EPSRC DU.
Yn ddiweddar, dyfarnwyd £14m o arian gan Ganolfan Erthyglau Catalysis y DU i'r EPSRC i hyrwyddo ei gweithgareddau ymchwil, a chyfeiriwyd £7 miliwn tuag at ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae gwaith yr Athro Wass yn cwmpasu sawl agwedd ar gatalysis. Mae wedi ysgogi datblygiad nifer o gatalyddion ar gyfer prosesau newydd megis cynhyrchu biodanwydd i gymryd lle petrol a datblygu deunyddiau sy’n gallu 'hunan-iacháu'.
Bydd yr Athro Wass yn gwneud yn siŵr bod ymchwil sy'n arwain y byd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Sefydliad, ynghyd â datblygu a chynnal perthynas agos â phartneriaid y diwydiant.
Bydd yr Athro Wass hefyd yn goruchwylio’r broses o symud CCI i Gyfleuster Ymchwil Drosiadol (TRF) newydd sbon Prifysgol Caerdydd.
Bydd y cyfleuster hwn yn rhan ganolog o Gampws Arloesedd gwerth £300 miliwn Prifysgol Caerdydd ac yn cynnig cyfleusterau arloesol. Bydd y rhain yn helpu ymchwilwyr a myfyrwyr i weithio gyda phartneriaid er mwyn datblygu mentrau sy'n creu cynhyrchion, cwmnïau deillio, busnesau newydd a mentrau cymdeithasol.
"Sefydliad Catalysis Caerdydd yw un o’r canolfannau rhyngwladol mwyaf blaenllaw ar gyfer ymchwil catalysis, felly mae bod yn Gyfarwyddwr arno yn fraint a chyfle enfawr," meddai'r Athro Wass.
Bydd yr Athro Wass yn cymryd yr awenau oddi wrth yr Athro Graham J. Hutchings CBE FRS, Athro Regius mewn Cemeg, sydd wedi arwain CCI ers iddo gael ei ffurfio yn 2008.
Meddai’r Athro Hutchings: "Rwyf yn falch iawn bod yr Athro Wass yn cymryd y swydd yn CCI. Mae'n dod â chyfoeth o brofiad gydag ef a fydd yn siŵr o hyrwyddo enw da Caerdydd yn un o brif ganolfannau'r byd ar gyfer catalysis.
"Mae arwain CCI am y 10 mlynedd ddiwethaf wedi bod yn bleser pur, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Athro Wass a chydweithwyr mewn dyfodol sy’n argoeli i fod yn gyffrous"
Dywedodd yr Athro Damien Murphy, Pennaeth yr Ysgol Cemeg: "Bydd yr Athro Wass yn dod â meysydd ymchwil newydd i CCI, gan adeiladu ar y cryfderau presennol yng Nghaerdydd. Bydd yn cyflawni'r cyfleoedd enfawr y gall catalysis eu cynnig wrth ddatrys nifer o'r heriau mwyaf sy'n wynebu cymdeithas. Rydym yn croesawu Duncan yn fawr i’r Ysgol a CCI, ac rydym yn falch iawn ei fod wedi derbyn y cyfle i arwain CCI."