Partneriaeth Mabwysiadu Gyda'n Gilydd ar restr fer ar gyfer gwobrau
19 Hydref 2018
Mabwysiadu Gyda'n Gilydd – Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng Cymdeithas Plant Dewi Sant, Ysgol Busnes ac Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd. Mae’n un o dri phrosiect o’r DU sydd ar y rhestr fer yn y categori 'Arloesedd' gan yr Institute for Collaborative Working(ICW) ar gyfer gwobr genedlaethol.
Mae'r ffurflen enwebu wedi dangos sut mae'r prosiect wedi rhoi dull mwy strwythuredig o gydweithio ar waith. Mae’n torri tir newydd wrth ddangos canlyniadau amlwg yn rhan o'r cydweithrediad rhwng y trydydd sector a'r sectorau statudol.
Cyhoeddir enillydd y wobr hon mewn seremoni yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 13 Rhagfyr.
Mae'r prosiect hefyd wedi’i enwebu ar gyfer Gwobrau GO Cymru yn y categori Gwobr Budd-daliadau Cymdeithasol a Chymunedol mewn Caffael Cyhoeddus.
Mae Mabwysiadu Gyda'n Gilydd yn un o chwe phrosiect o Gymru ar y rhestr fer sydd wedi llwyddo i dynnu sylw at sut mae manteision cymdeithasol a chymunedol wedi'u hymgorffori wrth wraidd y broses gaffael. Yn y pen draw, bydd hyn yn rhoi gwell deilliannau i ddinasyddion ac yn arbed llawer iawn o arian yn ystod bywyd pob plentyn.
Dywedodd Dr Katherine Shelton, o’r Ysgol Seicoleg: "Rydym yn falch o nodi Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2018 drwy sôn am ein datblygiadau gyda ‘Mabwysiadu Gyda'n Gilydd’. Nod y prosiect cydweithredol hwn, a arweinir gan Gymdeithas Plant Dewi Sant, yw diwallu angen arbennig a ddynodwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wrth ddod o hyd i gartrefi parhaol ar gyfer plant sy'n aros yr hiraf am deuluoedd a’u cefnogi. Mae hyn yn cynnwys plant dros bedair oed, brodyr a chwiorydd, a'r rhai sydd ag anghenion cymhleth neu broblemau datblygiadol. Rydym yn datblygu gwasanaethau hynod arloesol sy'n arwain y sector, ac sy’n seiliedig ar anghenion a nodwyd yn genedlaethol.
Dechreuodd y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ym mis Medi 2017. Trwy gyfarwyddyd uniongyrchol gan Dr Jane Lynch yn Ysgol Busnes Caerdydd, mae'r prosiect wedi creu strwythur, sy'n cynrychioli newid trawsnewidiol yn y broses o gaffael gofal cymdeithasol sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Yn ôl y Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies: "Mae Llywodraeth Cymru, drwy ei Phartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Phrifysgol Cymru, yn helpu Cymdeithas Plant Dewi Sant (partner yn y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol) i ddarparu pecyn cymorth arloesol – o'r enw 'Mabwysiadu Gyda'n Gilydd' – sy'n cael ei lansio heddiw. Hwn yw'r cynllun cyntaf o'i fath ac mae'n cynnig cefnogaeth wedi'i theilwra i bobl sy'n mabwysiadu, drwy asesiadau, hyfforddiant uwch ac ymyriadau therapiwtig, cyn ac ar ôl lleoli gyda theulu newydd."
Gan gydweithio er mwyn sefydlu gwasanaeth dan arweiniad therapiwtig sydd wedi'i ddiffinio'n glir, mae'r Asiantaeth Mabwysiadu Gwirfoddol (VVA) wedi datblygu a chytuno ar Gynllun Rheoli Cydberthynas ar y Cyd. Wrth ddefnyddio'r cytundeb hwn, bu'n gweithio gyda'r sector statudol i weithredu Cytundebau Lefel Gwasanaeth.
Yn Mabwysiadu Gyda'n Gilydd, rhoddir y pwyslais ar gaffael sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hwn yn gam trawsnewidiol o’r arfer cyfredol o brynu pethau yn ôl y galw, i gael trefniadau cydweithredol. Mae cryfder cydweithrediad VAA a'r arferion gweithio ar y cyd ar draws y sectorau gwirfoddol a statudol yn effeithio’n uniongyrchol ar sut y darperir gwasanaethau.
Mae wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion y plant mwyaf cymhleth ac agored i niwed yn ogystal â'u rhieni mabwysiadol.