3 uchaf ar gyfer Astudiaethau Celtaidd
17 Hydref 2018
Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd wedi codi dau le i’r trydydd safle ar gyfer Astudiaethau Celtaidd yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2019.
Meddai Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg:
“Mae hefyd yn adlewyrchu’r ffaith fod arolygon allanol yn dangos bod ein myfyrwyr yn gwerthfawrogi safon uchel yr addysg a gânt gyda ni. Ond ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau. Byddwn yn parhau i ddatblygu’r ddarpariaeth addysgol a’r ymchwil sy’n cael effaith go iawn ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant.”
Mae’r canlyniad hwn yn cyd-fynd ag asesiadau eraill o ansawdd gwaith Ysgol y Gymraeg. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, roedd yn seithfed yn y DU am ansawdd ymchwil ac yn gyntaf am effaith (yn uned asesu Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth). Ac eleni fe gafwyd sgôr o 100% ar gyfer boddhad cyffredinol yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS 2018).