Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno ap adrodd straeon digidol mewn Arddangosfa yn San Francisco

17 Hydref 2018

St Fagans National Museum of History using the Traces app
Mae Olion yn gyfuniad o brofiad adrodd stori ddiddorol, ap myfyrio a gêm symudol.

Bydd Olion, ap straeon digidol sy'n mynd â chi ar daith o gwmpas Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, yn cael ei gyflwyno yn Arddangosfa Digital Heritage yn San Francisco y mis hwn.

Digital Heritage 'New Realities:Authenticity & Automation in the Digital Age’ yw'r prif ddigwyddiad byd-eang ar dechnoleg ddigidol ar gyfer cofnodi, cadw a rhannu treftadaeth.

Dechreuodd Olion yn 2016 pan gafodd Dr Jenny Kidd o Brifysgol Caerdydd arian gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar gyfer menter gydweithredol rhwng Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac asiantaeth greadigol yello brick.

Mae Olion yn gyfuniad o brofiad adrodd stori ddiddorol, ap myfyrio a gêm symudol. Mae'n defnyddio sain i arwain ymwelwyr ar daith o gwmpas yr amgueddfa awyr agored trwy ddefnyddio storïau a gedwir o archifau, storïau heddiw a chynnwys ffuglennol.

Mae Olion yn gyfuniad o brofiad adrodd stori ddiddorol, ap myfyrio a gêm symudol. Mae'n defnyddio sain i arwain ymwelwyr ar daith o gwmpas yr amgueddfa awyr agored trwy ddefnyddio storïau a gedwir o archifau, storïau heddiw a chynnwys ffuglennol.

Mae angen i ymwelwyr lawrlwytho'r ap rhad ac am ddim cyn ymweld â'r safle, a dod â chlustffonau ar y diwrnod, a gallant ddewis mynd ar daith unigol neu gyda phartner.

"Mae Olion wedi ein galluogi i ystyried nifer o gwestiynau pwysig sy'n ymwneud â threftadaeth ddigidol: beth all treftadaeth drochi ei wneud, a beth na all ei wneud? Beth sy'n digwydd pan fydd y gwirionedd a ffuglen yn gwrthdaro mewn gwaith treftadaeth ddigidol? Sut mae ymwelwyr yn ymateb pan fyddant yn cael eu gwahodd i wneud pethau'n wahanol?"

Dr Jenny Kidd

Mae Olion eisoes wedi cael ei gyflwyno i gynulleidfaoedd yn Norwy, Denmarc a ledled y DU, ac hyd yn hyn mae dros fil o bobl wedi lawrlwytho'r ap ac wedi cwblhau Olion.

Rhannu’r stori hon