Mae data yn dangos bod digon o le yng ngharchardai’r wlad i droseddwyr o Gymry
22 Mawrth 2017
Mae data sydd wedi’u cyhoeddi heddiw yn dangos y bydd agor ‘archgarchar’ yn Port Talbot yn arwain at leoedd gwag yng ngharchardai Cymru.
Mae’r ffigurau newydd hyn yn dilyn cyhoeddiad bod bwriad i adeiladu carchardy Categori C yn Port Talbot ar gyfer hyd at 1,600 o droseddwyr yn ôl adroddiad BBC Wales News.
Yn ôl ein dadansoddiad, wedi’i seilio ar y defnydd presennol o garchardai Cymru o’i gymharu â nifer y Cymry sy’n garcharorion ar hyn o bryd, bydd yng Nghymru bron 2,400 o leoedd gwag (2,387) ar ôl dechrau defnyddio carchardy Port Talbot yn llawn.
Yn ôl y data, hyd yn oed pe bai Carchardy EM Caerdydd yn cau o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth San Steffan, byddai yng Nghymru dros 1,600 o leoedd gwag o hyd o gymharu’r defnydd cyfredol o garchardai’r wlad â chyfanswm y troseddwyr sydd ynddyn nhw.
Daw’r data yn sgîl sylwadau Llywodraeth Cymru am droseddwyr ifanc, “...ddylen ni ddim carcharu pobl ifanc, dylen ni eu cynorthwyo...” Rhoddwyd y sylwadau yn ymateb i gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant fis Rhagfyr 2016.
Meddai’r Dr Robert Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru:
“Mae’r data sydd wedi’u cyflwyno yma yn dangos yn eglur y bydd penderfyniad Llywodraeth San Steffan i adeiladu ‘archgarchar’ yn Port Talbot yn arwain at lawer o leoedd gwag yng ngharchardai Cymru ac y bydd llawer o garcharorion yn dod i’r wlad hon o rannau eraill o’r deyrnas o ganlyniad.”
“Hyd yn oed pe bai Carchar EM Caerdydd yn cau, byddai tua 1,600 o leoedd gwag o hyd. Felly, rhaid holi pam mae angen codi archgarchar arall yng Nghymru.”
“Cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer archgarchar newydd yn Port Talbot, mae angen gofalu y bydd trafodaeth gyhoeddus gyflawn a gonest am yr effeithiau a allai ddod o ganlyniad i adeiladu cyfleuster mawr o’r fath. Byddai honno’n cynnwys cwestiynau am y modd y gallai archgarchar arall yng Nghymru effeithio ar y gwasanaethau datganoledig cyfredol megis gofal iechyd ac addysg carcharorion, camddefnyddio cyffuriau a thai.”
“Gan fod trafodaethau am ddatganoli pwerau cyfiawnder troseddol i Gymru yn digwydd ar hyn o bryd, bydd angen i wleidyddion ystyried sut mae archgarchar newydd yn y wlad hon yn debygol o effeithio ar hyn o agenda yn y dyfodol.”