Trafodaeth gwleidyddion uchelradd Plaid Llafur am dynged yr Undeb
30 Mawrth 2017
![A panel of five Labour politicians sit on the stage](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1345580/Senior-Labour-politicians-discuss-the-future-of-the-Union.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Gwahoddon ni rai o wleidyddion uchelradd Plaid Llafur i drafod tynged yr Undeb mewn achlysur yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru.
Daeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, cyn Brif Weinidog San Steffan, Gordon Brown, Arweinydd Plaid Llafur yr Alban, Kezia Dugdale ASA a chyn Ddirprwy Brif Weinidog San Steffan, yr Arglwydd John Prescott ynghyd ddydd Mercher 29ain Mawrth 2017 i drafod tynged y Deyrnas Gyfunol mewn achlysur yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.
Ar ôl yr achlysur, meddai’r Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Dros Dro Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd:
"Mae cyflwr cyfansoddiadol y Deyrnas Gyfunol yn prysur newid ac roedd yn ddiddorol iawn clywed syniadau a sylwadau’r panel am dynged cyfansoddiad y deyrnas."
"Mae’r penderfyniad i dynnu allan o Undeb Ewrop wedi sbarduno trafodaeth gyhoeddus newydd am y cyfansoddiad, boed annibyniaeth i’r Alban neu ragor o ddatganoli i Gymru, ac mae’n bwysig iawn cynnal trafodaethau o’r fath yn gyhoeddus fel y gall pobl ymgysylltu â’r pwnc o dan sylw."