Ewch i’r prif gynnwys

Ydy datganoli wedi bod o les i ni?

19 Medi 2017

Senedd Building in Cardiff Bay

Yn ôl data newydd a gyhoeddwyd i nodi ugain mlynedd ers y refferendwm am ddatganoli, mae cryn dipyn o bobl yng Nghymru o’r farn nad yw datganoli wedi effeithio o ryw lawer ar eu bywydau bob dydd.

Mae’r canfyddiadau a gyhoeddwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn ystyried agweddau’r cyhoedd tuag at ddatganoli ers 1997. Er bod y mwyafrif yn parhau i fod o blaid datganoli, mae’n dangos nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl ei fod wedi cyflawni’r gwelliannau disgwyliedig mewn meysydd polisi pwysig.

Mae’r canfyddiadau’n tynnu ar ddata nas cyhoeddwyd o’r blaen o Astudiaeth Etholiad Cymru 2016 a fersiwn diweddaraf Arolwg Baromedr Gwleidyddol Cymru.

Yr unig wahaniaeth yw tyb y bydd rhywfaint o ymroddiad o leiaf ymhlith gwleidyddion ym Mae Caerdydd i drin a thrafod problemau’r wlad, er nad yw pobl yn fodlon ar eu hymdrechion i ddatrys y problemau hynny. Yr Athro Roger Awan-Scully, Pennaeth Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ac Athro’r Gwyddorau Gwleidyddol.

Professor Roger Awan-Scully

Mae’r data’n dangos:

  • Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae agweddau tuag at ddatganoli wedi aros yn weddol sefydlog. Ers 2001, mae'n dangos bod o leiaf 65% o bobl wedi bod o blaid datganoli.
  • Mae mwyafrif o blaid lefel y pwerau sydd wedi’u datganoli i Gymru, neu o blaid cael rhagor o bwerau, yn enwedig ym maes plismona, sydd heb ei ddatganoli i Gymru hyd yma.
  • Pan ofynnwyd am sut mae datganoli wedi effeithio ar safonau byw, roedd bron dau o bob tri o’r rhai a holwyd (65%) yn teimlo na fu unrhyw wahaniaeth, ac roedd llai nag un o bob pump (19%) yn credu bod pethau wedi gwella.
  • Pan ofynnwyd am sut mae datganoli wedi effeithio ar addysg, roedd 60% o'r rhai a holwyd yn teimlo na fu unrhyw wahaniaeth yn y maes polisi hwn sydd wedi’i ddatganoli. Roedd mwy o bobl (22%) yn meddwl bod pethau wedi gwaethygu o gymharu â faint oedd yn credu bod datganoli wedi gwella safonau (18%).
  • Pan ofynnwyd am y gwasanaeth iechyd, er bod hanner (50%) y rhai a holwyd yn teimlo na fu unrhyw wahaniaeth amlwg, roedd bron i draean (32%) yn credu bod pethau wedi gwaethygu ers datganoli, a dim ond 18% oedd yn meddwl bod pethau wedi gwella.
  • Yn annisgwyl, mae'r data yn dangos cysylltiad cryf rhwng faint o ddatganoli y mae ar bobl eu heisiau a’r hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma yn eu barn nhw. Mae’r rhai sy'n gwrthwynebu datganoli yn llawer llai tebygol o gredu bod y Cynulliad yn gorff pwerus o’u cymharu â’r rhai sydd o blaid gweld Cymru’n cael mwy o annibyniaeth wleidyddol.
  • Er gwaethaf yr amheuon ynghylch effaith datganoli ar eu bywydau bob dydd, roedd gan yr ymatebwyr fwy o ffydd yng ngallu’r gwleidyddion ym Mae Caerdydd i wneud rhagor ynghylch problemau Cymru, na’r gwleidyddion yn Llundain.

‘Mae cyflawniad Llywodraeth San Steffan yn wael.’

Dyma farn yr Athro Roger Scully ynghylch y canfyddiadau newydd hyn:

"Mae’r data diweddaraf yma yn cadarnhau’r darlun sydd wedi dod i’r amlwg mewn ymchwil flaenorol: mae pobl Cymru wedi derbyn datganoli ac am ei weld yn aros. Fodd bynnag, gallwn ddangos ein bod wedi cyrraedd y pwynt yma er gwaethaf y ffaith nad yw pobl wedi cael eu plesio o gwbl gan y polisïau sydd wedi’u cyflwyno yn ystod 20 mlynedd o lywodraeth ddatganoledig. Wedi dweud hynny, mae pobl yn teimlo bod y llywodraeth yn Llundain wedi perfformio’n wael hefyd.

Fe gyflwynwyd y canfyddiadau gan yr Athro Roger Scully yn nigwyddiad “Ie oedd ateb Cymru”: 20 mlynedd ers y refferendwm am ddatganoli yng Nghymru, a gynhaliwyd gan Sefydliad Materion Cymru ar y cyd â Chanolfan Llywodraethiant Cymru.

Arolwg ar y cyd yw Arolwg Baromedr Gwleidyddol Cymru a gynhelir gan Yougov ar ran ITV Cymru Wales a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynhaliwyd Astudiaeth Etholiad Cymru 2016 gan YouGov gyda chymorth ESRC.

Rhannu’r stori hon