Effaith economaidd y Brifysgol wedi cyrraedd lefel newydd uchel
16 Hydref 2018
Mae ffigurau newydd wedi datgelu bod Prifysgol Caerdydd yn cynhyrchu mwy o arian i economi’r Deyrnas Unedig nag ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan London Economics - un o brif ymgyngoriaethau economeg a pholisi Ewrop - mae Prifysgol Caerdydd bellach yn cyfrannu £3.23 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig.
Mae hyn yn cyfateb i gynhyrchu £6.30 am bob £1 mae’r Brifysgol yn ei gwario.
Y ffigur hwn yw’r uchaf ers i’r Brifysgol ddechrau cofnodi ei heffaith economaidd yn ôl yn 2012/13 ac mae wedi codi 21% ers hynny.
Cynhyrchir yr effaith economaidd, a gyfrifwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/17, gan ansawdd uchel y dysgu a’r addysgu a roddir i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol bob blwyddyn, cyflawni ymchwil sy’n arwain y byd yn gyson, a darparu swyddi ar draws Cymru ac economi y Deyrnas Unedig gyfan.
Wedi’i sbarduno gan gynnydd yn nifer y myfyrwyr is-raddedig amser llawn oedd yn cychwyn ar radd, o gymharu â 2014/15, cododd cyfraniad gweithgareddau dysgu ac addysgu’r Brifysgol i £1.15 biliwn. Mae’r ffigur hwn yn deillio o’r derbyniadau trethiant uwch gan raddedigion y brifysgol oedd yn mynd i gyflogaeth, yn ogystal â lefel uwch yr enillion cysylltiedig â gweithwyr mwy medrus a chynhyrchiol.
Cododd effaith gweithgareddau ymchwil Prifysgol Caerdydd i £709 miliwn, cynnydd o 7% ar ffigurau 2014/15, sy’n adlewyrchu perfformiad y Brifysgol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, lle cyrhaeddodd safle 5 yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ei gwaith ymchwil.
Gan fod mwy na 5,000 o fyfyrwyr tramor yn cychwyn ar gymwysterau ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2016/17, amcangyfrifwyd mai cyfanswm gwerth yr allforion addysgol oedd £195 miliwn. Sbardunwyd hyn gan incwm y ffïoedd dysgu a dalwyd gan fyfyrwyr tramor, yn ogystal â’r gwariant oddi ar y campws gan y myfyrwyr hynny yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol.
Amlygodd yr adroddiad hefyd yr effaith arwyddocaol a gafwyd gan wariant y Brifysgol a’i myfyrwyr, oddi mewn i Gymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
Dangosodd yr adroddiad, yn ogystal â’r 5,875 o staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd yn y Brifysgol - yr oedd 87% ohonynt yn byw yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd - roedd 4,108 o swyddi eraill ar draws y Deyrnas Unedig yn cael eu cefnogi gan weithgareddau’r Brifysgol a’i chadwyn gyflenwi eang ei chwmpas.
Amcangyfrifwyd bod tua 1 o bob 130 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar Brifysgol Caerdydd.
Amcangyfrifwyd mai cyfanswm effaith gwariant Prifysgol Caerdydd a gwariant personol ei myfyrwyr oedd £1.18 biliwn, y cronnwyd £1 biliwn ohono yng Nghymru - mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 10% ers 2014/15.
Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Mae’r adroddiad yn amlygu rôl arwyddocaol Prifysgol Caerdydd o ran symbylu twf economaidd, a hynny gartref yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
“Mae ein gweithgareddau addysgu, dysgu ac ymchwil yn rhoi hwb pwysig i economi’r Deyrnas Unedig ac yn cynnig enillion sylweddol ar fuddsoddiad.
Dywedodd Dr Gavan Conlon, un o gyd-awduron yr adroddiad, o London Economics: “Mae’r dadansoddiad economaidd manwl hwn yn dangos bod Prifysgol Caerdydd wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn parhau i gyflwyno addysgu a gwaith ymchwil sydd ymhlith y gorau yn y byd.
“Bu Prifysgol Caerdydd yn chwarae rôl arweiniol yn hir wrth ddatblygu a chynnal yr amgylchedd addysgol a diwylliannol yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru.
“Mae’r adroddiad hwn yn dangos nad yw’r effaith wedi’i chyfyngu i addysg uwch yn unig, ac mae’n nodi effaith economaidd a chymdeithasol aruthrol y brifysgol, ei staff a’i myfyrwyr ar economi Cymru.”