Diolch, #TîmCaerdydd
16 Hydref 2018
Mewn cyfnod o dristwch mawr, hoffai’r Brifysgol fynegi ei diolch i aelodau #TîmCaerdydd a gymerodd ran yn Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd am eu llwyddiannau anhygoel.
Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad wedi’u tristáu’n arw gan farwolaeth drasig dau redwr: Ben McDonalds a Dean Fletcher (BSc 2007), aelod o #TîmCaerdydd, a raddiodd o Ysgol Busnes Caerdydd.
Roedd Caerdydd, fel dinas ac fel Prifysgol, wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd Dean.
Ar ôl symud i brifddinas Cymru yn 2004, fe gadwodd mewn cysylltiad â grŵp clos o ffrindiau o’i gyfnod fel myfyriwr yn byw yng Ngogledd Tal-y-bont a thrwy ei astudiaethau. Ar ôl graddio, arhosodd yn y ddinas i ddechrau ar yrfa lwyddiannus mewn cyfrifeg.
Yn ystod ei amser yno, fe wnaeth gwrdd â Katie (nee Punter) (BScEcon 2010) a raddiodd o Gaerdydd gydag ef, ac fe briododd y ddau. Symudon nhw gyda’i gilydd i Gaerwysg a dechrau teulu, gyda’u merch fach Evie yn cyrraedd y llynedd.
Disgrifiwyd Dean gan Katie fel “gŵr a thad anhygoel” gyda’i deulu a’i ffrindiau yn brif ffynhonnell o hapusrwydd a chymhelliant iddo.
Dywedodd yr Athro Karen Holford (PhD 1987), Dirprwy Is-Ganghellor: “Mae #TîmCaerdydd a chymuned ehangach y Brifysgol wedi’u heffeithio’n fawr gan farwolaeth drasig Dean Fletcher.
“Roedd Dean yn rhedeg er mwyn helpu i godi arian ar gyfer ymchwil flaenllaw mewn niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl: bydd ei ymdrechion o fudd i gleifion a theuluoedd am flynyddoedd i ddod.
“Roedd ei farwolaeth gynnar yn eithriadol o drist. Yn ystod cyfnod mor anodd, mae perthynas unigryw a’r teimlad o gymuned a gaiff ei greu gan #TîmCaerdydd wedi bod yn amlwg.
“Diolch hefyd am eich gwaith caled, eich holl ymarfer a’ch ymroddiad. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr – nid yn unig i’n hymchwil, ond i’n helpu ni i gefnogi ein gilydd ar adeg o dristwch a cholled.”
Hyd yma, mae carfan 2018 #TîmCaerdydd wedi codi £74,000 ar gyfer ymchwil canser, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl a gynhelir yn y Brifysgol.
Mae’r Brifysgol dan deimlad o dderbyn cynifer o syniadau ac awgrymiadau am sut i gofio a dathlu bywyd Dean yn y ffordd orau, a byddant yn cael eu hystyried gyda’i deulu maes o law.