Gorffennol a dyfodol y gyfraith yng Nghymru
15 Tachwedd 2017
Ddydd Gwener 27 Hydref, fe roes Arglwydd Thomas Cwmgïedd ddarlith o’r enw ‘Gorffennol a Dyfodol y Gyfraith yng Nghymru’.
Bu’r Arglwydd Thomas yn rôl Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr ac, yn ddiweddar, penodwyd yn gadeirydd y Comisiwn dros Gyfiawnder yng Nghymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod y ddarlith, soniodd am hanes cyfreithiol Cymru cyn mynegi ei farn am faterion mae’r Comisiwn dros Gyfiawnder yng Nghymru yn eu hwynebu.