Ewch i’r prif gynnwys

The End of British Party Politics?

7 Mehefin 2018

Professor Roger Awan-Scully stands speaks in front of a busy room at a launch event.

Roedd lleoliad ar gyfer digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd dan ei sang wrth i’r Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru lansio ei lyfr newydd ‘The End of British Party Politics?’.

Ymunodd Felicity Evans o’r BBC â’r Athro Awan-Scully ar gyfer sesiwn holi ac ateb.

Clywodd y gynulleidfa fawr sut mae dewisiadau etholiadol ledled Prydain wedi dod yn fwyfwy gwahaniaethol yn ôl ffiniau cenedlaethol dros lawer o'r hanner canrif ddiwethaf.

Yn 2017, yn yr ail etholiad cyffredinol yn olynol, daeth pedair plaid wahanol yn gyntaf ym mhedair gwlad y deyrnas.

Fe amlinellodd y gwyddonydd gwleidyddol enwog sut mae pleidleiswyr y deyrnas yn wynebu cyfresi gwahanol a hynod ddatgysylltiedig o ddewisiadau gwleidyddol bellach, a beth fydd goblygiadau hynny i ddyfodol Cymru a'r deyrnas gyfan.

Rhagor am y llyfr.

Rhannu’r stori hon