Dyfynnu academydd o Gaerdydd mewn astudiaeth amgylcheddol gan y Cenhedloedd Unedig
15 Hydref 2018
Mae Astudiaeth gan y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddar wedi dyfynnu llyfr ar droseddau amgylcheddol gan academydd o adran y Gyfraith, Caerdydd.
Ceir cyfeiriadau helaeth at lyfr Dr Ricardo Pereira, Environmental Criminal Liability and Enforcement in European and International Law (Brill, 2015) yn astudiaeth gynhwysfawr ddiweddaraf Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP) ar droseddau amgylcheddol The State of Knowledge of Crimes that have Serious Impacts on the Environment, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin eleni.
Mae astudiaeth UNEP yn cynnwys trafod tueddiadau allweddol, bylchau ym maes gorfodaeth ac ymatebion penodol cenedlaethol a thrawsgwladol i droseddau amgylcheddol mewn sawl gwlad. Mae’r astudiaeth yn amlygu prif sbardunau troseddau amgylcheddol, sy’n cynnwys ‘the economic benefits, the ever-increasing demand, and the institutional and regulatory failure resulting in a sense of impunity’ (UNEP 2018 t.1, Pereira 2015). Mae’r astudiaeth hefyd yn asesu i ba raddau mae’r galw mewn gwledydd sy’n ddefnyddwyr, yn arbennig yn Asia, yn sbarduno troseddau amgylcheddol ar lefel fyd-eang. Mae’n nodi bod ‘countries in Asia are increasingly becoming major consumer markets of a wide range of illegal wildlife resources and products including rare highly valuable wood like rosewood’ (UNEP 2018 t.IX, Pereira 2015) ac yn arbennig bod ‘wildlife parts, such as rhino horns and elephants tusks, are popular in some regions of Asia due to the belief in their medicinal benefits, as well as for ornamental reasons’ (UNEP 2018 t. 10, Pereira 2015).
Ar ben hynny mae astudiaeth UNEP yn archwilio hyd a lled yr ecsbloetio anghyfreithlon ar adnoddau naturiol mewn sectorau penodol, gan amlygu natur drawsffiniol masnach anghyfreithlon. Mae’n cyfeirio at y fasnach anghyfreithlon mewn pren fel enghraifft glasurol o farchnad sy’n llifo’n bennaf o wledydd llai datblygedig i wledydd mwy datblygedig (UNEP 2018 t.10, Pereira 2015), yn ogystal ag at fewnforion gwastraff anghyfreithlon sy’n croesi ffiniau cenedlaethol yn hawdd ac yn arbennig ‘to countries that have weak or non-existent inspection systems and technologies available’ (UNEP 2018 t. 3, Pereira 2015). O ran bylchau rheoliadol ac ymatebion mae awduron yr astudiaeth yn rhannu pryderon Dr Pereira bod ‘regulatory gaps and deficiencies at the national and international levels mean that law enforcement, prosecution, and sentencing risks are lower compared to other criminal activities’ (UNEP 2018 t.2, Pereira 2015)
Mae Dr Ricardo Pereira wedi datblygu thema ei lyfr yn ei erthyglau diweddaraf ym maes cyfraith troseddau amgylcheddol, sef Towards Effective Implementation of the EU environmental crime? The case of illegal waste management and trafficking offences, Review of European, Comparative and International Environmental Law a Towards an international crime of ‘ecocide’? A commentary on the implications of the ICC Office of the Prosecutor’s 2016 Policy Paper on Case Selection and Prioritisation (i ddod).