Arweinydd Prosiect Phoenix yn cael ei gwneud yn Is-gennad Anrhydeddus
11 Hydref 2018
Mae arweinydd Prosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd wedi’i gwneud yn Is-gennad Anrhydeddus i Namibia yng Nghymru.
Dyfarnwyd y fraint i’r Athro Judith Hall yn Llysgenhadaeth Namibia yn Llundain.
Mae Prosiect Phoenix yn gweithio gyda Phrifysgol Namibia i leihau tlodi, hyrwyddo iechyd a chefnogi’r amgylchedd.
Bydd cyfrifoldebau'r Athro Hall yn cynnwys datblygu cysylltiadau Nambia â Chymru.
Bydd y rôl ddi-dâl yn canolbwyntio’n benodol ar ei meysydd arbenigol fel addysg uwch, arloesedd a busnes.
Rhoddwyd yr anrhydedd gan y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a Chydweithredu, Netumbo Nandi-Ndaitwah, a’i ddyfarnu gan Uwch Gomisiynydd Namibia i’r DU, Ei Ardderchowgrwydd Steve Vemunavi Katjiuanjo.
Dywedodd yr Athro Hall: “Am fraint i mi gael cynrychioli un wlad wych mewn gwlad wych arall. Fe wnaf fy ngorau glas i weld beth y gallaf ei wneud i’n helpu ni gyd.”
Mae rhai o uchafbwyntiau gwaith Prosiect Phoenix yn Namibia yn cynnwys:
- addysgu meddygon a nyrsys ynghylch gofalu am y cleifion gwannaf yn ystod llawdriniaethau
- creu sector meddalwedd ffyniannus
- cefnogi diwylliant ac ieithoedd cenedlaethol
- galluogi’r heddlu a gwasanaeth yr ambiwlansys i achub bywydau ar ôl damweiniau ar y ffyrdd
Bu’r Athro Hall yn bresennol mewn derbyniad arbennig gyda Dug Caergrawnt yn ddiweddar, i ddathlu cysylltiadau rhwng y DU a Namibia.