Du, disglair a Chymreig
10 Hydref 2018
Mae gwaith athro prifysgol, entrepreneur cymdeithasol a rheolwr gyfarwyddwr benywaidd cyntaf Bws Caerdydd yn cael eu dathlu ar rhestr o 100 o bobl Affricanaidd Caribïaidd ac Affricanaidd Gymreig i nodi Mis Hanes Pobl Dduon.
Mae'r rhestr, a gyhoeddir ar Wales Online, wedi'i chasglu gan aelodau o rwydwaith Hanes Pobl Dduon Cymru ar thema 'Eiconau Cymru Ddu'.
Mae'r Athro Emmanuel Ogbonna, Yaina Samuels a Cynthia Ogbonna'n ymuno â 97 o bobl eraill a ddewiswyd am eu hymrwymiad a'u cyfraniadau eithriadol i fywyd cyhoeddus, gwyddoniaeth, iechyd, addysg, y celfyddydau, chwaraeon, busnes a hawliau cyfartal.
Cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant
Mae Emmanuel Ogbonna yn Athro Rheoli a Threfnu yn Ysgol Busnes Caerdydd, gyda'i ymchwil diweddar yn canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant, gan edrych ar sefyllfa cymunedau du a lleiafrifol ethnig yn y farchnad lafur.
Roedd yn rhan o dîm a gwblhaodd prosiect ymchwil a noddwyd gan yr Academi Brydeinig a'r Gymdeithas Rheoli Siartredig ar amrywioldeb yn llwybrau rheoli sefydliadau FTSE 100.
Mae ei gyhoeddiadau wedi derbyn cyfeirnodau rhagoriaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan gynnwys: y papur gorau mewn ymchwil gwasanaethau (UDA), y 50 erthygl ar reoli sydd wedi'u darllen fwyaf, yr erthyglau sydd wedi'u lawrlwytho fwyaf a dewis y golygydd.
Mae Emmanuel wedi eistedd ar fyrddau golygyddol llawer o gyfnodolion rheoli blaenllaw ac mae ar hyn o bryd yn ymddiriedolwr Cyngor Hil Cymru.
Entrepreneur cymdeithasol sy'n adrodd y gwirionedd
Penodwyd Yaina Samuels yn ddiweddar yn Entrepreneur Preswyl yn Ysgol Busnes Caerdydd, ac mae wedi defnyddio ei phrofiad ei hun o gamddefnyddio sylweddau, dibyniaeth, triniaeth ac adferiad i helpu eraill yn ystod ei 25 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn cyrff sector preifat, cyhoeddus a thrydydd sector.
Mae'n ei disgrifio ei hun fel entrepreneur cymdeithasol sy'n adrodd y gwirionedd, gan weld y byd fel y mae a sut y gall fod.
Yn 2010, sefydlodd NuHi, menter gymdeithasol sy'n cynnig gweithdai addysg a hyfforddiant i bobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau.
Dros y degawd diwethaf mae Yaina wedi cynnig hyfforddiant ac wedi sefydlu prosiectau cymorth elusennol gan gynnwys grŵp arweinyddiaeth i fenywod yn Sierra Leone.
Yn ddiweddar fe'i penodwyd yn gydlynydd rhanbarthol y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Phobl Ifanc, prosiect ymgysylltu BAME Cymru gyfan.
Mae ei gwaith wedi derbyn cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Wobr Dewi Sant ar gyfer Dinasyddiaeth. Ym mis Mai 2016, dyfarnwyd iddi yr Iconic Innovative Trailblazer of the Decade gan yWomen Economic Forum.
Hygyrchedd a chynaladwyedd
Yn 2012, Cynthia Ogbonna oedd y fenyw gyntaf yn hanes 110 o flynyddoedd Bws Caerdydd i gael ei phenodi’n rheolwr gyfarwyddwr.
Ers cael ei phenodi, mae Cynthia wedi gweithio i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a chynaliadwy a hefyd wedi ymrwymo i’r cwmni fod yn gyflogwr cyflog byw.
Mae gan y cwmni dros 200 o fysiau, 700 o staff a throsiant o £34m.
Mae hi'n gyfrifydd siartredig cymwysedig, yn ysgrifennydd cwmni ac yn fam i ddau. Hefyd mae ganddi MBA o Ysgol Busnes Caerdydd ac mae'n Gymrawd y Gymdeithas Celf Frenhinol.
Yn 2018, gwnaed Cynthia yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Darllenwch fwy am sut y caiff diwylliant ac amrywiaeth eu dathlu i nodi Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru ym mis Hydref eleni.