Ansicrwydd ac anghydfod cyfansoddiadol yn rhoi Brexit Gwyrdd mewn perygl
10 Hydref 2018
![Field](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/1320576/Environment.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Yn ôl adroddiad, mae Brexit yn bygwth bwrw’r uchelgeisiau amgylcheddol cyffredin sy'n uno'r DU i'r cysgod.
Mae'r Athro Richard Cowell, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, yn rhan o rwydwaith Brexit a’r Amgylchedd, sydd wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn ymchwilio i oblygiadau Brexit ar gyfer polisïau amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig ddatganoledig. Mae adroddiad diweddaraf y grŵp yn nodi bod pryderon ymysg arbenigwyr y bydd yr amgylchedd yn cael llai o flaenoriaeth ar yr agenda polisïau ar ôl i’r DU adael yr UE.
Mae’r tîm, sydd wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi cyhoeddi set o bedwar papur briffio, gydag awgrymiadau ar gyfer pob un o genhedloedd y DU. Mae crynodeb ohonynt mewn adroddiad cyffredinol, Environmental policy in a devolved United Kingdom: Challenges and opportunities after Brexit.
Mae rhai o’r prif ganfyddiadau'n cynnwys:
- Paratoadau ar gyfer Brexit yn bygwth bwrw'r uchelgeisiau amgylcheddol cyffredin sy’n uno llywodraethau Cymru, yr Alban a’r DU i'r cysgod;
- Gobaith Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yw gallu cyd-lunio polisïau ond, yn ôl profiad y gwledydd datganoledig, ychydig o rybudd a geir cyn cyhoeddiadau a phrin yw'r cyfleoedd i lunio polisïau;
- Mae pryderon y bydd cytundebau masnach y dyfodol yn cyfyngu ar allu llywodraethau datganoledig i lunio'u polisïau eu hunain, er enghraifft trwy gyfyngu ar eu hawdurdod i leihau’r defnydd o Organebau a Addaswyd yn Enetig;
- Mae rhanddeiliad yn poeni y bydd y corff gwarchod amgylcheddol newydd yn gorff Saesneg heb lawer o ddiddordeb yn y gwledydd datganoledig na dealltwriaeth ohonynt;
- Ceir cryn bryder y bydd llywodraeth y DU yn tanseilio polisïau arloesol ac uchelgeisiol y gwledydd datganoledig;
- Mae perygl i Ogledd Iwerddon gael ei heithrio o’r cytundeb amgylcheddol ar ôl Brexit gan nad oes mewnbwn ganddi yn y trafodaethau cyfredol. Mae hyn yn bwysig gan fod hanes cymharol wan o lywodraethu amgylcheddol yng Ngogledd Iwerddon, ac mae’n wynebu sawl her amgylcheddol draws-ffiniol gydag Iwerddon.
Dywedodd yr Athro Richard Cowell, o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: “Mae Cymru eisoes wedi rhoi nifer o fesurau uchelgeisiol ar waith sy’n dangos ei gallu i feddwl yn strategol dros y tymor hir am sut i gyflawni polisïau amgylcheddol cadarn ac effeithiol. Ond mae’r ffordd y mae Brexit wedi datblygu wedi arwain bwrw uchelgeisiau amgylcheddol cyffredin y pedair cenedl i'r cysgod a chynyddu’r risg y bydd yr amgylchedd yn cael llai o flaenoriaeth ar yr agenda.
“Mae diffyg eglurder ac atebolrwydd ym model presennol y DU ar gyfer llywodraethu amgylcheddol. Hyd yma, ni fanteisiwyd ar y cyfle i dynnu sylw at y gwendidau hyn yn y cytundeb amgylcheddol ar ôl Brexit. Mae risg y gallai baglu ymlaen trwy’r broses Brexit arwain at fabwysiadu datrysiadau anneniadol yn barhaol, ar draul datrysiadau gwell y byddai eu rhoi ar waith yn ymddangos yn rhy anodd.
“Mae’n rhaid i lywodraeth y DU weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon i ddatblygu polisïau amgylcheddol ystyriol sy’n gwarchod ein hadnoddau naturiol ar gyfer y dyfodol.”
Mae'r adroddiadau ar gael yn:
Cymru: https://www.brexitenvironment.co.uk/wp-content/uploads/2018/10/BrexitEnvWalesReport.pdf
DU: https://www.brexitenvironment.co.uk/wp-content/uploads/2018/10/BrexitEnvUKReport.pdf
Alban: https://www.brexitenvironment.co.uk/wp-content/uploads/2018/10/BrexitEnvScotlandReport.pdf
Gogledd Iwerddon: https://www.brexitenvironment.co.uk/wp-content/uploads/2018/10/BrexitEnvUKReport.pdf