Disgyblion yn cael eu hannog i astudio ieithoedd
10 Hydref 2018
Mae prifysgolion Caerdydd a Rhydychen wedi dod at ei gilydd i annog disgyblion o Gymru i astudio ieithoedd modern ym mhrif sefydliadau’r Deyrnas Unedig.
Mae’r ddwy brifysgol wedi trefnu digwyddiad undydd i arddangos manteision personol a’r gyrfaoedd cyffrous posibl sydd ar gael i raddedigion ieithoedd.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod gostyngiad digynsail yn y nifer sy’n dysgu ieithoedd yn yr ysgolion gan fod nifer y myfyrwyr o Gymru - ac ar draws y Deyrnas Unedig - sy’n astudio TGAU a Safon Uwch mewn ieithoedd modern wedi bod yn lleihau dros gyfnod o flynyddoedd lawer.
Dengys ffigurau StatsWales fod nifer y disgyblion yng Nghymru sy’n sefyll TGAU mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg wedi gostwng o 7,867 yn 2014 i 5,626 yn 2017, tra bod y Safon Uwch yn yr un pynciau wedi gostwng o 541 yn 2014 i 390 yn 2017.
Ym marn arbenigwyr iaith mae’r broblem yn cael ei gwaethygu hefyd gan agweddau negyddol at ddiwylliannau eraill, a ddwysawyd gan Brexit.
Diwrnod Amlieithrwydd Creadigol ddydd Sadwrn 13 Hydref - nod y diwrnod hwn yw amlygu manteision dysgu ieithoedd ac ysbrydoli pobl ifanc i ystyried ieithoedd modern ar gyfer Safon Uwch a’r brifysgol.
Mae’r digwyddiad, yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, yn cefnogi Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru i helpu disgyblion sy’n gyflawnwyr lefel uchel o Gymru i gyflawni eu potensial a mynd i’r prifysgolion gorau.
Bydd disgyblion Blwyddyn 11, y bydd llawer ohonynt yn cychwyn ar Safon Uwch y flwyddyn nesaf, yn clywed gan raddedigion iaith o’r ddwy brifysgol sy’n ceisio sicrhau gyrfa ysbrydoledig.
Maent yn cynnwys Callum Davies, a raddiodd mewn Ffrangeg a Chymraeg o Brifysgol Caerdydd, sy’n gwneud defnydd da o’i radd fel swyddog cyswllt chwaraewyr ar gyfer Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, yn y Brif Gynghrair, lle mae sawl chwaraewr Ffrangeg eu hiaith.
Dywedodd Callum, a aeth i Ysgol Gyfun Treorci yn y Rhondda: “Fy rôl i yw helpu’r chwaraewyr gydag unrhyw broblemau fel eu bod nhw’n gallu canolbwyntio’n llwyr ar eu pêl-droed.
“I Brifysgol Caerdydd a’r sgiliau iaith a ddysgais fel rhan o’m cwrs gradd y mae’r diolch am bopeth rwy’n ei wneud nawr."
Bydd llu o bartneriaid yn ymwneud â’r digwyddiad, fydd yn cynnwys gweithdai a sesiynau rhagflas mewn ieithoedd fel Siapanaeg, ac yn eu plith bydd Seren, Prifysgol Caerdydd, Coleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), rhaglen ymchwil Amlieithrwydd Creadigol, a Llwybrau i Ieithoedd (Routes into Languages) Cymru.
Dywedodd Claire Gorrara, Athro mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac un o drefnwyr y digwyddiad, ei bod yn pryderu am y gostyngiad yn niferoedd y myfyrwyr Safon Uwch, yn enwedig gyda bod Brexit ar y gorwel.
Meddai: “Mae llai a llai o ddisgyblion wedi bod yn dewis dysgu ieithoedd modern yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn arbennig yn sector y wladwriaeth.
“Mae astudio ieithoedd yn aml yn ddangosydd mantais gymdeithasol ac economaidd, ac mae ysgolion difreintiedig yn llai tebygol o weld niferoedd uwch yn parhau yn y dosbarthiadau iaith."
Meddai’r Athro Katrin Kohl, o Brifysgol Rhydychen, Prif Ymchwilydd y rhaglen Amlieithrwydd Creadigol: “Mae ieithoedd yn rhan bwysig dros ben o’n hunaniaeth - ac maen nhw’n cynnig llawer o’r sgiliau personol sydd eu hangen yn ein heconomi fyd-eang, fel dealltwriaeth o ddiwylliannau, sgiliau cyfathrebu a’r gallu i addasu.
“Mae’n bleser gennym gymryd rhan yn y digwyddiad er mwyn tynnu sylw at y manteision y gall dysgu ieithoedd eu cynnig i yrfaoedd yn ogystal â dangos y cysylltiad rhwng ieithoedd a chreadigrwydd.
“Gyda chymorth y crefftwr geiriau a’r cerddor RTKAL, rydym yn gobeithio hyrwyddo’r syniad ymhlith disgyblion nad sgiliau ymarferol yn unig yw ieithoedd: maen nhw’n declyn sy’n arwain at gyfleoedd annisgwyl, yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams: “Mae’n wych clywed bod prifysgolion Caerdydd a Rhydychen wedi bod yn cydweithio â rhaglen Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru i annog disgyblion chweched dosbarth o bob rhan o Gymru i astudio ieithoedd modern.
“Mae’n hanfodol bod disgyblion a dysgwyr yn sylweddoli pwysigrwydd ieithoedd tramor modern a’r cyfleoedd bywyd a gyrfa sylweddol maent yn gallu eu cynnig.
“Rydw i am i’n pobl ifanc ddod yn ddinasyddion byd-eang, sy’n gallu siarad â phobl mewn ieithoedd eraill a deall a gwerthfawrogi eu diwylliannau eu hunain, yn ogystal â diwylliannau eraill.”