Y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ennill gwobr Made in Wales
10 Hydref 2018
Mae’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC), menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE, wedi ennill y wobr yn y categori ‘Cydweithio’ yng Ngwobrau Made in Wales Insider Media.
Cafodd y wobr ei dyfarnu am ehangder a chwmpas partneriaethau’r cwmni, yn enwedig o fewn y clwstwr lled-ddargludyddion rhanbarthol sy'n datblygu (CSconnected). Mae ei phartneriaid yn cynnwys; IQE, SPTS, Microsemi, Newport Wafer Fab, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC):
"Mae CSC a'n partneriaid yn hynod falch o ennill y wobr hon gan fod cystadleuaeth gref gan GE Aviation a Creo Medical a oedd hefyd ar y rhestr fer.
"Mae'r wobr yn cydnabod effaith cydweithio agos a phenodol rhwng busnesau, y byd academaidd ac asiantaethau'r llywodraeth.
"Hoffwn hefyd longyfarch SPTS a enillodd deitl Gwneuthurwr y Flwyddyn. Mae'r ffaith bod cynrychiolwyr o'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd wedi ennill dwy wobr yn dyst i bwysigrwydd cynyddol ein sector diwydiant i'r economi ranbarthol.”
Yn ystod y deunaw mis diwethaf, mae CSC wedi ennill a dechrau naw prosiect Ymchwil a Datblygu cydweithredol, gwerth dros £6m, mewn amrywiaeth o gymwysiadau gan gynnwys Telathrebu, Electroneg Pŵer, Sensing, Gofal Iechyd a Quantum Technol.
Mae CSC yn adeiladu ar ymchwil a gynhaliwyd yn Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd, i ddatblygu technolegau newydd arloesol sy'n galluogi ystod eang o gymwysiadau newydd a rhai sy'n datblygu.
Mae’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) ym Mhrifysgol Caerdydd yn galluogi ymchwilwyr a'r diwydiant i gydweithio er mwyn bodloni galw'r defnyddwyr trwy ddatblygu ymchwil academaidd hyd at bwynt lle gellir ei chyflwyno’n ddibynadwy ac ar fyrder i’r sector cynhyrchu.
Cyflwynwyd y wobr i CSC yn ystod seremoni wobrwyo yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Iau 4 Hydref.