Ewch i’r prif gynnwys

Datgladdu sgiliau newydd

10 Hydref 2018

Glauberg dig team

Mae tad-cu i dri yn dangos nad yw byth yn rhy hwyr i gloddio'n ddwfn am wybodaeth ffres.

Mae Jeff, 72, yn astudio gradd mewn Hanes yr Henfyd ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ddiweddar, dychwelodd ar ôl pum wythnos yn cloddio yn Galuberg, yr Almaen, sy'n ardal enwog ar draws y byd ar gyfer dod o hyd i greiriau hanesyddol anhygoel.

"Roedd yn waith caled," meddai Jeff, sy'n byw ger Caerdydd. "Ychydig o eli haul ar ddechrau'r diwrnod, yna byddem wrthi'n cloddio drwy'r dydd. Des o hyd i grochenwaith Neolithig, gan wneud y cyfan yn werth chweil.”

Mae hanes yr henfyd wedi ei gyfareddu ers ei fod yn ifanc, pan aeth ei frawd ag ef i Gaerleon, yn wyth mlwydd oed. Serch hynny, ni benderfynodd fynd ar drywydd ei ddiddordeb ymhellach hyd nes iddo ymddeol.

"Roeddwn yn ei chael yn anodd iawn hamddena – nid oedd yn teimlo'n iawn," meddai. "Clywais eu bod yn chwilio am wirfoddolwyr i gloddio yng Nghaerau, felly mi es i yno. Bûm yn gweithio gyda matog a rhaw, ond fy mhrif weithgaredd oedd hidlo, gan chwilio am rywbeth diddorol. Sylweddolais nad oeddwn yn dysgu hanes, roeddwn yn dysgu sut i wneud hanes."

Tra'n cloddio ym Mryngaer Caerau, digwyddiad a gafodd ei drefnu gan Brosiect Ailddarganfod Treftadaeth (CAER) Caerau a Threlái, clywodd Jeff am y llwybrau at radd oedd yn cael eu cynnal ym Mhrifysgol Caerdydd. Fel opsiwn amgen i Safon Uwch a chymwysterau mynediad i oedolion, mae'r llwybrau wedi'u dylunio ar gyfer oedolion sy'n dychwelyd i fyd addysg, sydd am symud tuag at astudio ar lefel gradd. Galluogodd Llwybr Archwilio’r Gorffennol Jeff i ddechrau gradd ran-amser yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. Yn dilyn hynny, roedd wedi gallu dechrau gradd ran-amser yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Mae Jeff, sydd ar fin dechrau'r ail flwyddyn o gwrs pum mlynedd, yn gobeithio bod yn rhan o ddigwyddiadau cloddio eto, cyn gorffen ei radd.

"Mewn gwirionedd, allwch chi ddim dysgu archaeoleg oni bai eich bod chi allan yn y maes. Mae angen i chi gael profiad o ba mor heriol a boddhaol ydyw, er mwyn gallu dehongli'r hyn sydd o'ch blaen," meddai.

Ychwanegodd Dr Paul Webster, cydlynydd Llwybr Ymchwilio’r Gorffennol: "Mae brwdfrydedd ac awydd Jeff i ddysgu wedi bod yn amlwg ers iddo ddechrau'r cyrsiau Llwybrau Archwilio'r Gorffennol. Mae wedi cymryd o ddifrif at astudio hanes yr henfyd ac archaeoleg, ac wedi datblygu'n gyflym ac yn glir fel myfyriwr ar y Llwybrau, ac ar y cwrs gradd erbyn hyn. Wrth bob cam, mae'n profi nad yw hi'n rhy hwyr ar unrhyw adeg i ddysgu sgiliau newydd ac ennill profiadau newydd."

Mae'r Brifysgol yn cynnig 11 o lwybrau at raddau israddedig mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys gofal iechyd, newyddiaduraeth, ffarmacoleg feddygol ac ieithoedd modern. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw cynnig hyblygrwydd a dewis yn ein rhaglenni, yn ogystal â datblygu llwybrau mynediad ychwanegol.