Yr Athro John Tyrrell (1942-2018)
9 Hydref 2018
Gyda thristwch y clywodd yr Ysgol Cerddoriaeth am farwolaeth yr Athro John Tyrrell yn 76 oed.
John oedd yr arbenigwr blaenllaw ar y cyfansoddwr Leoš Janáček, yn y byd Tsiecaidd yn ogystal â'r byd Saesneg. Ar y cyd â'r arweinydd Syr Charles Mackerras, bu'n gweithio ar y golygiadau perfformio diffiniol o Jenůfa and From the House of the Dead, a’r ddau ohonynt oedd yr ysgogiad y tu ôl i'r adfywiad rhyngwladol o ddiddordeb yn operâu Janáček, sydd bellach yn mwynhau safle digwestiwn yn y drysorfa ryngwladol. Ond fel ieithydd arbenigol a sylwebydd craff, roedd yn meddu ar wybodaeth awdurdodol am gerddoriaeth Tsiecaidd o bob math. Fel golygydd gweithredol ail argraffiad ehangedig The New Grove Dictionary of Music and Musicians bu'n chwarae rhan flaenllaw yn mhrosiect geiriadurol mwyaf yr ugeinfed ganrif ym maes cerddoriaeth.
Ganwyd John Tyrrell yn yr hyn sydd bellach yn Harare, Zimbabwe, ac astudiodd am BMus ym Mhrifysgol Cape Town. Pan oedd yn dal i fyw yn Affrica dechreuodd ddysgu Tsieceg, ar ôl mynd gyda ffrind i gwrdd ag alltud o’r wlad a aeth ati i ddysgu ambell ymadrodd yn yr iaith iddynt. Ar ôl graddio o Cape Town aeth i Rydychen. Yno, ei oruchwyliwr doethurol annhebygol oedd y cyfansoddwr Edmund Rubbra, ac yn anffodus prin oedd y diddordeb a ddangosodd yn y traethawd ymchwil ar wahân i gywiro'r atalnodi. Serch hynny, llwyddodd yr astudiaeth ddilynol o ddatblygiad arddulliadol Janáček fel y'i gwelir yn y diwygiadau i'r pum opera cyntaf i osod trywydd gyrfa John at y dyfodol.
Ar ôl swyddi golygyddol gyda The Musical Times ac argraffiad cyntaf The New Grove, penodwyd John i swydd ddarlithio ym Mhrifysgol Nottingham, ac arhosodd yno am dros ugain mlynedd, gan ddod yn Ddarllenydd yn 1989 ac yn Athro yn 1996. Yn ystod y cyfnod hwn cynhyrchodd chwe chyfrol, gan gynnwys Czech Opera (1988, a gyhoeddwyd mewn cyfieithiad Tsieceg yn 1991), ei astudiaeth ddogfennol Janáček’s Operas (1992) ac yn 1997 (mewn cydweithrediad â Nigel Simeone ac Alena Němcová) y catalog diffiniol Janáček’s Works. Hefyd casglodd ddeunydd ffynhonnell gwerthfawr ar y menywod ym mywyd Janáček: yr ohebiaeth gyda Kamila Stösslovà, gwrthrych serch y cyfansoddwr yn ei flynyddoedd olaf, ac atgofion ei wraig oddefgar, Zdeňka.
Ar ôl ei ail gyfnod yn New Grove, ar secondiad o Nottingham i ddechrau, ymgymerodd John â Chymrodoriaeth Ymchwil Athrawol ym Mhrifysgol Caerdydd. Dywedodd mai'r swydd hon a ganiataodd iddo gwblhau'r hyn roedd yn ei ystyried yn benllanw gwaith ei fywyd, sef y cofiant mewn dwy gyfrol, Janáček: Years of a Life (2006 a 2007). Roedd hwn yn fwy na'r gwaith mwyaf oedd yn bodoli ar y pwnc ar y pryd. Roedd yn sefyll allan ar unwaith fel un o'r cofiannau mwyaf systematig ag iddo gyfoeth o fanylion ar unrhyw gerddor a gyhoeddwyd yn Saesneg. Ond yn wahanol i Janáček, nid oedd John (gan ddyfynnu is-deitl Cyfrol 1) yn 'lonely blackbird'. Nid yn unig mae'r gwaith yn tynnu ar ac yn cydnabod yn hael yr ysgolheictod a ddatblygodd yn sgil ei waith ei hun, ond mae hefyd yn cynnwys penodau gan bobl eraill ar faterion fel materion ariannol y cyfansoddwr a'i iechyd. Fel pe na bai'r gwaith rhyfeddol hwn yn ddigon, llanwodd y blynyddoedd hyn gyda phrosiectau cydweithredol eraill hefyd. Bu'n gweithio gyda Karl Stapleton a Rupert Ridgewell yn eu tro ar ddau brosiect cronfa ddata: Prague Concert Life a'r Concert Programmes Database (yr olaf wedi’i osod ar y cyd yng Nghaerdydd a'r Coleg Cerdd Brenhinol). Yn ystod ei amser yng Nghaerdydd gwasanaethodd hefyd fel cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Llyfrgelloedd Cerdd (1999–2005).
Daeth natur golegol gynnes John yn amlwg i bawb pan ddaeth ei gymrodoriaeth ymchwil i ben a dychwelodd i fod yn athro llawn amser. Cofleidiodd addysgu'n frwd, gan weithredu fel mentor anffurfiol i gydweithwyr iau, a chymerodd ofal o'r Fforwm Ôl-raddedig newydd. Cynlluniwyd y Fforwm yn fwriadol fel ffordd i ddatrys unigrwydd y ddoethuriaeth hirbell (nodwedd o'i brofiad ei hun yn Rhydychen), ac mae wedi goroesi hyd heddiw fel ffocws i gymuned ôl-raddedig yr Ysgol Cerddoriaeth.
Er ei fod wedi dweud (mewn trosiad nodweddiadol o gymysg) y byddai'n 'hongian ei gyfrifiadur i fyny' ar ôl cwblhau'r cofiant, ni wnaeth ddim o'r fath. Parhaodd â'i olygiad beirniadol o From the House of the Dead yn dilyn marwolaeth Syr Charles Mackerras yn 2010. (Cyfrol goffa i Mackerras, yn cynnwys ysgrifau ac atgofion a olygodd ar y cyd â Nigel Simeone, oedd ei lyfr olaf). Yn aml byddai'n gyrru ei ganfyddiadau golygyddol diweddaraf ar yr opera mewn ymateb brysiog i ymholiadau ar ffacs neu ebost gan dai opera o bedwar ban byd, tan yn y pen draw, ym mis Hydref 2017 profwyd y deunyddiau perfformio ar gyfer y golygiad newydd yn llawn am y tro cyntaf gan Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Er i John ddychwelyd ar gyfer y perfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn anffodus nid oedd yn ddigon iach i deithio dramor ar gyfer cynyrchiadau pellach. Fodd bynnag roedd yn ddigon iach i oruchwylio camau olaf y cyfieithiad Tsieceg o gyfrol gyntaf ei gofiant i Janáček, a gyhoeddir ddiwedd 2018.
Derbyniodd John sawl anrhydedd yn ystod ei yrfa, gan gynnwys doethuriaethau er anrhydedd gan y ddau brif sefydliad yn ninas enedigol Janáček, Brno, sef Prifysgol Masaryk (2002) ac Academi Celfyddydau Perfformio Janáček (2012). O glywed am ei farwolaeth, dywedodd Prif Weithredwr y Gerddorfa Ffilharmonig Tsiecaidd, David Mareček, bod John 'wedi sicrhau ei le fel rhan fyw o'r diwylliant Tsiecaidd'. Ar raddfa lai, bydd cyn-fyfyrwyr a chydweithwyr sydd bellach ym mhedwar ban byd yn adleisio'r teimlad hwnnw, gan iddo gyfoethogi pob amgylchedd y bu'n rhan ohono.
Mae partner John, Jim Friedman, yn ei oroesi.