Canfod troseddau drwy ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
12 Awst 2015
Bydd adnoddau rhagfynegi 'o'r radd flaenaf' yn cael eu defnyddio gan yr Heddlu Metropolitanaidd i fonitro digwyddiadau troseddol mewn amser real
Mae ymchwilwyr o'r Labordy Gwyddoniaeth Data Cymdeithasol wedi cael grantiau ymchwil gan y Ganolfan ar gyfer Rhagoriaeth Wyddonol a Pheirianneg yng Ngwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd a Chronfa Cyflymu Effaith ESRC. Diben y grantiau yw ymgorffori eu gwaith ymchwil arloesol ar ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i wneud dadansoddiadau rhagfynegol, a gaiff ei gydnabod yn rhyngwladol, ym mhrosesau gweithredol yr heddlu.
Mae Cyfarwyddwyr y Labordy, Dr Matthew Williams o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a Dr Pete Burnap o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, wedi datblygu modelau rhagfynegol cyfrifiadurol gan ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, i ddarogan digwyddiadau troseddol sy'n aflonyddu, a lledaeniad casineb ar-lein.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn cynhyrchu llawer iawn o ddata drwy sawl math o ymddygiad ar-lein. Amcangyfrifir bod oddeutu 2.5 biliwn o ddefnyddwyr nad ydynt yn unigryw yn aelodau o'r cyfryngau cymdeithasol. Defnyddiwyd y data a gynhyrchwyd gan y defnyddwyr hyn i ddarogan etholiadau, refeniw ffilmiau a hyd yn oed uwchganolbwynt daeargrynfeydd.
Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Burnap: "Mae'r ymchwil blaenorol sydd wedi archwilio'r defnydd o ddata'r cyfryngau cymdeithasol mewn cyd-destunau plismona a throseddu wedi bod yn seiliedig ar ardaloedd metropolitan mawr, fel Chicago a San Francisco. Mae Llundain, gyda'i 2.5 miliwn o ddefnyddwyr Twitter, yn ddinas ddelfrydol i ddatblygu ein hymchwil i'r cyfryngau cymdeithasol a phlismona ymhellach, gan ddefnyddio llwyfan meddalwedd COSMOS. Gellir ystyried data'r cyfryngau cymdeithasol yn fath o wybodaeth ffynhonnell agored a all helpu'r heddlu wrth wneud penderfyniadau yn y fan a'r lle.
"Bydd y grantiau newydd hyn yn ein galluogi i gyflawni effaith fesuradwy o fewn Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd, gan ymgorffori ein modelau rhagfynegi cyfryngau cymdeithasol yn eu prosesau gweithredol. Mae ASau yn garedig wedi cytuno i ni ddefnyddio setiau data a fydd yn ein galluogi i ddilysu ein modelau yn erbyn digwyddiadau troseddol go iawn."
Dywedodd Dr Williams: "Mae'n amlwg bod ar y diwydiant, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector angen dealltwriaeth well o sut gellir defnyddio'r mathau newydd hyn o ddata cymdeithasol swmpus i ychwanegu gwerth at arferion presennol. Wrth roi'r gwiriadau ystadegol cywir ar waith, a defnyddio arweiniad theori droseddegol, gall data'r cyfryngau cymdeithasol ategu ac ychwanegu at wybodaeth gonfensiynol yr heddlu i ragfynegi patrymau troseddu.
"Mae'r Labordy Gwyddoniaeth Data Cymdeithasol wedi ymrwymo i gynnal ymchwil arloesol ym meysydd troseddu, diogelwch a lles, er mwyn llywio sylfaen wybodaeth y gellir ei ymgorffori ym meysydd masnach, polisi ac ymarfer."
Dywedodd uwch-gynrychiolydd o Wasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd: "Rydym wir wedi gwerthfawrogi ein hymgysylltiad â'r Labordy Gwyddoniaeth Data Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd hyd yma, oherwydd maent wedi rhoi llawer o fewnwelediad i'r ffordd y gellir manteisio i'r eithaf ar y cyfryngau cymdeithasol er budd diogelwch a phlismona. Maent eisoes wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil helaeth o ran adnabod casineb ar-lein, ac mae'r prosiect newydd yn mynd a hyn gam ymhellach i ddatblygu a beirniadu methodolegau ac adnoddau ar gyfer adnabod digwyddiadau ac ymddygiad sy'n aflonyddu. Edrychwn ymlaen at ddyfodol arloesol gyda'r Labordy"