Dinasyddiaeth Fyd-eang yn allweddol i drawsnewid pobl a llefydd
8 Hydref 2018
Arweiniodd yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio weithdy bywiog ar heriau cymdeithasol a gwleidyddol byd-eang cyfoes gyda disgyblion o ysgol uwchradd leol ddydd Mawrth 2 Hydref.
Croesawodd Dr Peter Mackie a Dr Maxwell Hartt 25 o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Aberpennar i Gaerdydd ar gyfer Gweithdy Materion Byd-eang yn edrych ar yr heriau sylweddol sy'n effeithio ar bobl a llefydd ar draws y byd, a datrysiadau posibl.
Mae disgyblion Bagloriaeth Cymru'n paratoi i ymgymryd â'r Her Dinasyddiaeth Fyd-eang sy'n rhan o'r Dystysgrif Her Sgiliau. Roedd y gweithdy'n gyfle iddynt drafod dau fater byd-eang pwysig a thrafod eu tarddiad, eu heffaith a ffyrdd o ymdrin â nhw - yr argyfwng ffoaduriaid byd-eang a phoblogaeth sy'n heneiddio.
Cyflwynodd Dr Peter Mackie sesiwn ar ffoaduriaid trefol yn Addis Ababa, gan geisio deall a ydynt yn goroesi ynteu'n ffynnu yn erbyn cefndir yr argyfwng ffoaduriaid a pholisi ffoaduriaid byd-eang gelyniaethus. Roedd yr astudiaeth achos yn dangos sut roedd ffoaduriaid wedi cael effaith sylweddol ar economi Addis, gan greu marchnadoedd dynamig newydd a grymuso sail newydd o gwsmeriaid. Gofynnodd i'r disgyblion ystyried 'beth nesaf' a pha ddatrysiadau roeddent yn credu y byddai'n iawn i'w dilyn.
Mewn sesiwn ryngweithiol, heriodd Dr Maxwell Hartt y disgyblion i ystyried pobl hŷn, yn eu bywydau eu hunain ac yn y gymdeithas. Amlinellodd ffactorau fel cyfraddau geni isel a disgwyliad oes cynyddol sy'n cyfrannu at gymdeithas sy'n heneiddio. Tasg y disgyblion oedd nodi'r heriau a'r manteision allweddol a gyflwynir gan gymdeithas sy'n heneiddio yn ogystal â sut i baratoi ar gyfer poblogaeth sy'n gynyddol oedrannus.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Dr Mackie: "Roedd yn wych cael croesawu'r disgyblion i Gaerdydd, ac i'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Cafodd Maxwell a fi argraff dda iawn o'u meddylgarwch a'u huodledd wrth drafod yr heriau gwleidyddol a chymdeithasol cymhleth hyn. Hoffem ddiolch iddyn nhw am ymuno â ni a chyfrannu'n frwd ac yn ddeallus i drafodaeth ysgogol ar werthoedd cymdeithasol, ein rôl fel dinasyddion a grym cyfunol dinasyddiaeth sy'n ymgysylltu ac sy'n wybodus."