Canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol newydd yn archwilio adnoddau newydd sbon a data meintiol
8 Hydref 2018
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi lansio canolfan ymchwil arloesol sy’n bwriadu defnyddio ffynonellau data sydd heb eu defnyddio o'r blaen a dulliau ymchwil blaengar.
Y Ganolfan Dadansoddi Gwleidyddol a Chyfreithiol (CPLA) fydd canolbwynt yr Ysgol ar gyfer rhannu gwybodaeth am ddadansoddiadau data meintiol. Bydd y Ganolfan yn adeiladu ar gryfderau'r staff presennol ac yn cyfrannu at astudio Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth Wleidyddol, Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Gyfraith. Bydd yn gwneud hyn drwy ddefnyddio amgylchedd rhyngddisgyblaethol unigryw yr Ysgol.
Lansiwyd y ganolfan hon ym mis Gorffennaf gan Bennaeth yr Ysgol, yr Athro René Lindstädt, a’i gydweithwyr Dr Kevin Fahey, Dr Zach Warner, Dr Douglas Atkinson a Dr Christian Arnold, ond mae'r grŵp eisoes wedi cyflawni llawer iawn ers ei ffurfio.
Mae'r grŵp wedi creu storfa ddata sydd ar hyn o bryd yn storio'r deunyddiau ymchwil ar gyfer prosiect y Cynulliadau Seneddol Rhyngwladol ac Astudiaeth Etholiad Cymru. Mae'r storfa ddata yn fecanwaith sy’n galluogi ysgolheigion i gyhoeddi eu deunyddiau ymchwil a’u rhannu ag ysgolheigion eraill. Wrth wneud hynny, gallant greu partneriaethau gydag ysgolheigion ar draws y gymuned ymchwil fyd-eang a helpu ysgolheigion newydd i ddod o hyd i fannau cychwyn ar gyfer eu mentrau ymchwil eu hunain.
Mae'r grŵp hefyd wedi cyhoeddi papurau ym maes astudiaethau diogelwch yn y cylchgronau Political Research Quarterly, Journal of Global Security Studies, Journal of Defense Modeling and Simulation a phapurau ar ffederaliaeth a gwleidyddiaeth etholiadol is-genedlaethol yn yr Handbook of Territorial Politics, ac Electoral Studies. Yn olaf, mae'r grŵp wedi cyhoeddi ar wleidyddiaeth arlywyddol yn A Qualidade da Democracia no Brazil.
Mae'r Ganolfan yn awyddus i feithrin cysylltiadau gyda disgyblaethau ac academyddion eraill ar draws y Brifysgol yn ogystal â sefydliadau allanol a allai fod angen eu harbenigedd. Un sefydliad o'r fath yw Step Change, gwasanaeth cyngor y DU ar ddyledion. Bydd y ganolfan ymchwil yn cydweithio ag ef i astudio polisïau beilïau/gwarantwyr bondiau ar draws yr Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig
Yn ogystal, mae'r ganolfan yn cynorthwyo dysgu ac addysgu yn yr Ysgol drwy ddatblygu rhaglenni gradd newydd sy'n gysylltiedig â Gwyddorau Data. Yn ddiweddar, mae llawer o sefydliadau gan gynnwys Senedd y Deyrnas Unedig a'r Gymdeithas Ystadegol Frenhinol wedi amlygu’r argyfwng mewn llythrennedd data. O ganlyniad, mae'r Ysgol wedi dyfeisio cyfres newydd o raglenni (sydd yn y cyfnod cymeradwyo ar hyn o bryd) sy'n ceisio creu dinasyddion a graddedigion sydd â llythrennedd data.
Dywedodd aelod o'r CPLA, yr Athro Kevin Fahey, "Rôl y ganolfan yw bod yn adnodd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth er mwyn parhau i ateb cwestiynau ymchwil mewn ffyrdd newydd a diddorol. Rydym yn gobeithio adeiladu ar y sylfaen hon trwy gynnal gweithdai ar ddulliau ymchwil a phynciau o bwys. Byddwn yn cydweithio â staff yn yr Ysgol ar brosiectau newydd, ac yn hyrwyddo nodau'r Brifysgol wrth iddi symud tuag at REF 2021. "
Mae rhagor o wybodaeth am waith y Ganolfan i'w gweld ar dudalennau ymchwil gwefan yr ysgol.